Un o arweinwyr y mudiad Methodistaidd a roddodd feibl i Mary Jones.
Roedd Thomas Charles yn arweinydd yr ail genhedlaeth o Fethodistiaid Calfinaidd Cymru, ac yn un blaenllaw yn y gwaith o ledaenu gwybodaeth o'r Beibl yn ein hiaith. Oddi wrtho fe cafodd Mary Jones o Lanfihangel-y-pennant ei Beibl ym 1800. At hynny, gweithiodd yn ddiflino i sefydlu rhagor o Ysgolion Sul a darparu defnydd ar eu cyfer. Roedd hefyd yn ddiwinydd craff, er yn tueddu i fod yn llym, nodwedd a gyfrannodd at y rhwyg gyda Daniel Rowland.
Ganwyd ef yn Llanfihangel Abercywyn yn Sir Gaerfyrddin ym 1755. Yn fab i ffermwr, cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac yno fe'i hurddwyd yn ddiacon yn Eglwys Lloegr. Ond gyda'r Bala y cysylltir ei enw fel arfer, gan ei fod wedi priodi Sally Jones o'r dref honno, merch i siopwr cefnog, a hithau'n gwrthod gadael y fro.
Ymunodd â'r Methodistiaid ym 1784 ac, wedi ei wrthod gan sawl eglwys Anglicanaidd, cysegrodd weddill ei oes i'r Hen Gorff yr oedd ei wraig yn aelod selog ohono.
Tarddodd ei gynnyrch llenyddol o'i lafur gyda'r Methodistiaid. Ymhlith ei gyhoeddiadau pwysicaf roedd Catecism Byr (1799) a Hyfforddwr yn Egwyddorion y Grefydd Gristnogol (1807), ill dau wedi'u hysgrifennu ar gyfer plant.
Ysgrifennodd yn ogystal nifer o bamffledi yn amddiffyn Methodistiaeth yn erbyn honiadau Eglwyswyr. Ond ei brif waith oedd Y Geiriadur Ysgrythyrawl (4 cyf. 1805-11), a chyflwynodd wybodaeth newydd i'r Cymry am hanes a daearyddiaeth gwledydd y Beibl yn ogystal ag ymdriniaeth ddiwinyddol gaboledig. Cafodd y llyfr hwn ddylanwad mawr ar ddiwinyddiaeth Cymru am genedlaethau lawer.
Y dasg fawr yr ymgymerodd Thomas Charles â hi fel golygydd oedd paratoi testun Beibl Cymraeg cyntaf y Gymdeithas Feiblau y bu ganddo gymaint o ran yn ei sefydlu. Daeth ei argraffiad o'r Testament Newydd o'r wasg ym 1806 ond, er mawr siom iddo, heb Farnwyr 8 o ganlyniad i esgeulustod ar ran William Owen-Pughe, darllenydd y proflenni.
Cymwynas arall oedd Beibl 1814, un o'r argraffiadau mwyaf cywir a oedd yn ffrwyth deng mlynedd o astudio manwl yr holl argraffiadau blaenorol.
Fel addysgwr roedd Thomas Charles yn ymroddedig a selog dros ben. Anfonodd nifer sylweddol o athrawon o ardal i ardal, fel y gwnaeth Griffith Jones o'i flaen, i ddysgu'r werin bobl i ddarllen a gwerthfawrogi'r Ysgrythur trwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy ei ymdrechion ef daeth yr Ysgol Sul yn rhan annatod o Fethodistiaeth Cymraeg.
Bu farw Thomas Charles ym 1814, wedi syrthio mewn llewyg o'i geffyl. Gwelir cof golofn urddasol iddo o flaen Capel Tegid yn Y Bala.
Meic Stephens