BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llên
Thomas Parry
Thomas Parry

Ganwyd: 1904

Magwyd: Carmel, Sir Gaernarfon

Addysg: Ysgol Penfforddfelen; Ysgol Sir Penygroes; Prifysgol Bangor.


Prif hanesydd ein llên ac ysgolhaig o'r radd flaenaf.

Cyfraniad pwysicaf Thomas Parry oedd fel Cymro diwylliedig a oedd yn meddu ar farn gadarn a chytbwys, er braidd yn haearnaidd ar adegau - a dim ond y rhai annoeth a heriodd ei awdurdod.

Dechreuodd ar ei yrfa academaidd fel darlithydd mewn Cymraeg a Lladin yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ym 1926, yr un flwyddyn ag a raddiodd.

Cydnabuwyd ei ddysg pan benodwyd ef yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ym 1947, yn Llyfrgellydd Cenedlaethol ym 1953 ac yn Brifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, ym 1958. Fe'i hurddwyd yn farchog ym 1978.

Gwreiddiau yng Ngwynedd

Ganwyd ef ym 1904 yng Ngharmel, Sir Gaernarfon: yr oedd yn gefnder i T.H.Parry-Williams ac R. Williams Parry, ac yn gyfaill mynwesol i John Gwilym Jones. Bu farw ym Mangor ym 1985.

Llyfr cyntaf Thomas Parry oedd Y Sant Greal (1933), lle cyfunwyd ei ddawn creadigol ac ysgolheigaidd.

Yna trodd oddi wrth chwedlau Arthuraidd at faes tra gwahanol, gan gyhoeddi Baledi'r Ddeunawfed Ganrif (1935).

Ond ei magnum opus, heb os nac onibai, yw Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (1945), arolwg meistrolgar a chynhwysfawr a ystyrir hyd heddiw yn garreg filltir ar gyfrif ei wybodaeth drylwyr a'i arddull gaboledig.

Ymddangosodd atodiad, sef Llenyddiaeth Cymraeg 1900-1945 ym 1945 a chyfieithwyd y gwaith o dan y teitl A History of Welsh Literature a'i gyhoeddi ym 1955.

Lluniodd Thomas Parry (ar y cyd â Merfyn Morgan) Llyfryddiaeth Llenyddol Gymraeg (1976).

Golygydd

Llawn bwysiced o safbwynt ysgolheigaidd oedd argraffiad Thomas Parry o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym, a ddaeth o'r wasg ym 1952, er iddo hepgor nifer o gerddi a oedd, yn ei farn ef, yn anaddas i'w cyhoeddi.

Seiliodd y gyfrol ar bob llawysgrif a oedd ar gael ac fe wnaethpwyd y dasg o'u golygu â hyder a sicrwydd nodweddiadol.

Ysgogodd y llyfr hwn ddiddordeb newydd yng ngwaith y bardd ymhlith ysgolheigion Cymraeg.

Llenor creadigol

Er mai fel ysgolhaig y cofir Tom Parry yn anad dim, rhaid nodi ei fod hefyd yn lenor o'r iawn ryw.

Daeth yn agos at ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1932, cyfeithiodd ddrama T.S.Eliot, Murder in the Cathedral, o dan y teitl Lladd wrth yr Allor (1949), ac yn ei ddrama Llywelyn Fawr (1954) dangosodd ei feistrolaeth o'r ddrama fydryddol.

Ar ben hyn oll, ac yn ystod bywyd cyhoedus prysur dros ben, gwnaeth Thomas Parry gyfraniad gwerthfawr fel golygydd The Oxford Book of Welsh Verse (1962), sydd dal yn cael ei ystyried fel y casgliad mwyaf awdurdodol o farddoniaeth Gymraeg, er fod angen ychwanegu nifer o feirdd sydd wedi ennill eu plwyf ers cyfnod ei chyhoeddi.

Cyhoeddwyd detholiad o ysgrifau'r diweddar Thomas Parry, Amryw Bethau (gol.Emlyn Evans), ym 1966.

Meic Stephens


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy