Awdur A High Wind in Jamaica.
Er bod ei deulu wedi gadael Cymru yng nghyfnod y Tuduriaid, ac er iddo gael ei eni i rieni o Saeson yn Weybridge, Surrey, honnai Richard Hughes ei fod yn ddisgynydd i Feli Mawr, brenin Prydain, ac felly fe ystyriodd ei hun yn Gymro.Fe ddaeth i Gymru am y tro cyntaf tra oedd yn ddisgybl yn Ysgol Charterhouse, i fyw mewn bwthyn wedi ei rhentu gyda'i arian poced yn Nhalsarnau, Sir Feirionnydd.
Ym Mhrifysgol Rhydychen daeth yn gyfaill i lenorion fel T. E. Lawrence, Aldous Huxley, W. B. Yeats a John Masefield, ac ysgrifennodd ei ddrama gyntaf, The Sisters' Tragedy (1924), pan oedd yn 24 oed.
Ymsefydlu yng Nghymru
Wedi cyfnod o deithio yn America ac Ewrop, daeth yn ôl i Gymru a sefydlu cwmni drama, y Porthmadog Players; ysgrifenwyd ei ddrama orau, A Comedy of Good and Evil (1924), ar gyfer y cwmni hwn.
Ei ddrama Danger (1924), a leolir o dan ddaear, oedd yr un gyntaf i'w darlledu ar y radio.
Er iddo gyhoeddi ei Collected Poems (1926) a chyfrol o straeon, A Moment of Time (1926), fel nofelydd y ddaeth i amlygrwydd, a hynny fel awdur y nofel A High Wind in Jamaica (1929), stori afaelgar sy'n dryllio'r syniad Rhamantaidd am y plentyn fel bod diniwed, a gwnaeth ffilm adnabyddus o'r clasur hwn. Mae grwp o blant yn dystion i ymosodiad mor-ladron ar eu llong, ac ar sail eu tystiolaeth mae'r dynion yn cael eu crogi ar gam.
Cyfnod yn Sir Gaerfyrddin
Ym 1934, ar ôl anturiaethau lliwgar ym Moroco, ymsefydlodd Richard Hughes gyda'i wraig yng nghastell Llacharn yn Sir Gaerfyrddin, lle oedd Augustus John a Dylan Thomas yn westeion o dro i dro. Yno yr ysgrifennodd ei ail nofel, In Hazard (1938), stori sy'n rhagweld y rhyfel byd oedd ar fin cychwyn.
O 1940 hyd 1945 gweithiodd fel gwas sifil gyda'r Llynges ac yna, ym 1946, symudodd gyda'i deulu, i Dalsarnau, lle treuliodd weddill ei oes.
Gwaith uchelgeisiol
Er gwaethaf llwyddiant masnachol A High Wind in Jamaica, ei magnum opus yw The Human Predicament, cynllun uchelgeisiol i olrhain hanes Ewrop yn ystod y tri degau a'r pedwar degau yn yr Almaen, Lloegr, America a Chymru.
Ni chwblhawyd ond dwy gyfrol, sef The Fox in the Attic (1961) a The Wooden Shepherdess (1973), ond ceir digon o ysgrifennu mawreddog yn y ddwy i awgrymu, pe na bai'r awdur wedi marw ym 1976, byddai wedi cael ei roi yn ddiymwad yn rheng flaen ffuglen hanesyddol yr ugeinfed ganrif.
Er bod y cymeriadau heb eu ddatblygu'n llwyr, mae'r portread o Hitler yn arbennig o gofiadwy, ac mae'r cynfas mor eang ac mor fanwl ei syniadaeth fel bod y ddwy nofel yn ddarllenadwy a difyr dros ben.
Cyhoeddodd Richard Hughes gasgliad o straeon i blant, The Wonder Dog (1977), ac ar ôl ei farw cyhoeddwyd cyfrol o ysgrifau, darlithiau, darllediadau ac adolygiadau o dan y teitl Fiction as Truth (gol. Richard Poole, 1983).
Fe gladdwyd yr awdur ym mynwent Llanfihangel-y-traethau, eglwys nepell o'i gartref lle bu'n addolwr cyson.
Meic Stephens