Dramodydd dylanwadol
Fe ystyrir John Gwilym Jones, ynghyd â Saunders Lewis, yn un o ddau brif ddramodydd Cymraeg yr ugeinfed ganrif. Yn wahanol i Lewis, fodd bynnag, credai fod teimlad yn drech na rheswm a thrwy dderbyn cyfyngiadau bywyd, yn hytrach na gwrthryfela yn eu herbyn, y mae dyn yn dod i delerau â hwy.
Yn agnostig, nid oedd am fynegi unrhyw ffydd grefyddol yn ei waith.
Ganwyd John Gwilym Jones yn Y Groeslon, Sir Gaernarfon, ym 1904, ac roedd yr ardal yn ganolog i'w weledigaeth a'i ymroddiad i'r iaith Gymraeg.
Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, lle daeth yn gyfaill mynwesol i Thomas Parry, ac ar ôl pedair mlynedd yn Llundain, lle dechreuodd ymddiddori yn y theatr broffesiynol, dychwelodd i Gymru.
Bu'n athro yn Llandudno (1930-44), Pwllheli (1944-48) a Phen-y-groes (1948-49) cyn cael ei benodi'n gynhyrchydd drama radio gyda'r BBC ym Mangor.
Ym 1953 derbyniodd swydd fel darlithydd yn ei hen Goleg ac yno arhosodd nes iddo ymddeol ym 1971.
Gwaith cynnar
Ymhlith ei ddramâu cynnar oedd Y Brodyr (1934) a Diofal yw Dim (1942), ond gyda Lle Mynno'r Gwynt a Gŵr Llonydd, ill dau wedi'u perfformio ym 1958, gwelwyd fod talent newydd a grymus wedi ymddangos yn y theatr Gymraeg.
Dramâu teuluol ydynt, a'r brif thema yw'r argyfwng sy'n deillio o ddigwyddiadau cyhoeddus a phreifat.
Fel rhyw fath o adwaith yn erbyn yr hen ddramâu cegin a oedd wedi bod yn boblogaidd iawn yng Nghymru, cyflwynodd y dramodydd gymeriadau diwylliedig a deallus sy'n hunanymwybodol iawn ac yn trafod eu teimladau'n huawdl.
Cariad obsesiynol a'i ganlyniadau trasig yw thema Y Tad a'r Mab (1963).
Mae'r ddrama hon yn arbrofi gyda ffurf a thechneg mewn modd a newidiodd y theatr yn y Gymraeg yn sylweddol, gan ddefnyddio eironi a symboliaeth - gwers a dysgodd y Gwenlyn Parry ifanc.
Pwnc hanesyddol a ysbrydolodd Hanes Rhyw Gymro (1964), stori Morgan Llwyd sy'n cael ei drin yn y modd Brechtaidd.
Dramodydd dylanwadol
Erbyn hyn roedd John Gwilym Jones wedi'i sefydlu fel meistr ar ei grefft ac, yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mangor o 1971 ymlaen, daeth yn ddylanwad mawr ar do newydd o actorion.
Cafodd ei ddrama Rhyfedd y'n Gwnaed (1976), mewn cyfieithiad Saesneg gan yr awdur, rediad llwyddiannus yn Efrog Newydd ym 1980.
Y gwaith sy'n crisialu holl athroniaeth John Gwilym Jones yw Ac Eto Nid Myfi (1976), lle gwelir elfennau bywgraffyddol a chred yr awdur bod Dyn yn gaeth i'w etifeddeg a'i amgylchedd a bod rhaid iddo ddysgu dygymod â hyn.
Cymeriad hoffus
Er bod John Gwilym Jones yn ddramodydd yn bennaf, ysgrifennodd ddwy nofel, sef Y Dewis (1942) a Tri Diwrnod ac Angladd (1979), a chyfrol o storïau byrion hynod arbennig, Y Goeden Eirin (1946); cafodd ddetholiad o'i waith, gan gynnwys y chwe stori yn Y Goeden Eirin, a rhai o'i ysgrifau hunanfywgraffyddol, eu cyfieithu o dan y teitl The Plum Tree (2004).
Ymysg ei weithiau beirniadol pwysicaf y mae rheini ar Williams Pantycelyn, Daniel Owen, Crefft y Llenor (1977) a Swyddogaeth Beirniadol (1977).
Cymeriad swil, cymhleth a hoffus oedd John Gwilym Jones, un a garodd y theatr, ac athro a ysbrydolodd edmygedd mawr ymysg ei gyd-weithwyr, boed fyfyrwyr neu ddarlithwyr.
Ni phriododd erioed ond roedd ganddo gylch eang o gyfeillion.
Mae plac yn dynodi'r tŷ yn Rathbone Terrace, Groeslon, lle ganwyd ef, lle trigai a lle bu farw ym 1988.
Meic Stephens