 |
 | Bardd, prif lenor a golygydd cylchgrawn y Faner.
Mab i chwarelwr oedd Gwilym Richard Jones a gafodd ei fagu yn Cloth Hall, Talysarn, lle bu ei rieni yn cadw siop.
Bu'n olygydd Herald Môn, Y Brython a'r North Wales Times cyn ei benodi yn olygydd Y Faner ym 1945 a bu'n golygu'r cylchgrawn am dros chwarter canrif, gan gynnwys cyfnod byr pan ddychwelodd i'w olygu yn 1982 pan oedd yn 80 oed. Mae'n un o'r llenorion prin sydd wedi ennill 'y Grand Slam' yn yr Eisteddfod Genedlaethol - y Goron ym 1935, y Gadair ym 1938 a'r Fedal Ryddiaith ym 1941. Cyhoeddodd gyfrolau o gerddi, tair nofel a rhai dramâu. Rhoddodd Brifysgol Cymru radd MA er anrhydedd iddo am ei gyfraniad fel llenor a newyddiadurwr Cymraeg. Priododd â Myfanwy Parri Jones, Lerpwl ym 1931 a chawsant ddau fab a merch, Berwyn, Silyn ac Olwen. Roedd hefyd yn weithgar dros ben gyda Phlaid Cymru.
Bu farw yn 1993.
Ym mis Medi 2006, gosodwyd carreg goffa ar fur ei hen gartref, y Cloth Hall, wedi i Gymdeithas Lenyddol Dyffryn Nantlle lansio apêl i godi £1,000 i'w goffáu.
Ar y garreg y mae'r geiriau 'Y Gymraeg fu'i Gymru o', wedi eu hysgrifennu gan John Glyn Jones o Ddinbych.
 |  |  |
| 
|