Barddoniaeth, ffraeo, crwydro, a marw ymhell
Cafodd y bardd Goronwy Owen fywyd byr, anodd a thrist, er ei fod yn uchel iawn ei fri ymhlith beirdd Cymru am genhedlaethau ar ôl ei farw. Collodd fwy nag un swydd ar gyfrif ei gymeriad gwyllt a'i fuchedd afradlon, a dioddefodd sarhad a thrasiedi personol lawer tro.
Ganwyd ef ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yn Sir Fôn a magwyd ef yn yr hyn oedd yn weddill o draddodiad barddol y sir.
Yn Ysgol Friars derbyniodd ei addysg ac fe aeth am gyfnod byr i Goleg yr Iesu, Rhydychen, ond ni raddiodd.
Wedi rhai blynyddoedd fel athro ym Mhwllheli a Dinbych, fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1746 a bu'n gwasanaethu ym mhlwyf ei fagu, ond gorfu iddo ymadael ymhen y flwyddyn.
Crwydro a thlodi
Ar grwydr y bu wedyn, gan obeithio derbyn gofalaeth plwyf ei hun yn hytrach na gorfod derbyn tlodi fel curad, ond ni ddaeth y cyfle.
Yn y diwedd bu rhaid iddo dderbyn swydd fel athro mewn ysgol ramadeg oedd ynghlwm wrth Goleg William a Mary yn Williamsburgh yn Virginia.
Gadawodd Gymru ym 1757 gyda'i wraig a'i dri plentyn, ond bu farw hi a'r mab ieuangaf yn ystod y fordaith.
Ailbriododd yn America ond bu farw ei ail wraig hefyd.
Aeth wedyn yn feddwyn a byw'n afrad, collodd ei swydd o ganlyniad a mynd yn berson plwyf St. Andrew yn Brunswick County ym mhellafion Virginia.
Yno treuliodd ei naw mlynedd olaf, yn offeiriad, yn dyfwr tybbaco, ac yn briod am y trydydd tro.
Bu farw yn Virginia ym 1769 a chladdwyd ef ar ei blanhigfa ger Dolphin, i'r gogledd o Lawrenceville. Ar y pryd ni wyddai neb yng Nghymru ddim o'i hanes.
Yr uchelgais a'r realaeth
Roedd uchelgais wedi bod gan Goronwy Owen i fod yn fardd oddi ar ei febyd. Yn fwy na hynny, roedd o'r farn y dylid adfywio barddoniaeth Gymraeg a'i chodi o'r stad isel yr oedd wedi syrthio iddo.
Rhoddodd ei fryd ar ysgrifennu awdlau a chywyddau yn y dull Horasaidd ar bwnc 'y bywyd da'.
Mae ei lythyrau at ei gyn-noddwyr, y Morisiaid, yn llawn cynlluniau am lunio cerdd epig Filtonaidd yn y Gymraeg.
Roedd yntau wedi rhoi'r gorau i'r freuddwyd hon cyn gadael Cymru am Virginia ond gadawodd yr arwrgerdd yn uchelgais i genedlaethau diweddarach trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Derbyniwyd ei syniadau'n ddi-gwestiwn nes bod ei ddylanwad yn drwm ac yn andwyol ar gwrs llên Cymru.
Erys ei lythyrau sy'n llawn o ryddiaith ardderchog a nifer o gerddi, rhai ohonynt yn mynegi ei hiraeth am Sir Fôn.
Fe'i coffheir yn eglwys gadeiriol Bangor.
Roedd un o ddisgynyddion Goronwy Owen yn sylfaenydd y cwmni Interflora.
Meic Stephens