Un o feirdd pwysicaf Oes yr Uchelwyr.
Un o'r pwysicaf o Feirdd yr Uchelwyr oed Dafydd Nanmor. Ym marn Saunders Lewis, a'i gwelodd fel athronydd yn bennaf, roedd yn fardd clasurol a gynrychiolai'r 'Esthetig Cymreig', er bod ei waith yn adlewyrchu hefyd, rhaid nodi, elfennau mwy cyntefig yr hen ganu arwrol. Mae ei awdlau yn cydymffurfio â'r patrwm traddodiadol; serch hynny, cyfrannodd yn sylweddol i ddatblygiad y ffurf trwy godi uwchben confensiynau a chanu'n ffres a thrawiadol.
Brodor o Nantmor, ger Beddgelert, Sir Gaernarfon, ydoedd, ond cafodd ei alltudio o Wynedd ar gyfrif ei gerddi i wraig briod, Gwen o'r Ddôl: ffoes i'r De, lle treuliodd weddill ei oes dan nawdd Rhys ap Maredudd o'r Tywyn ger aber afon Teifi. Nid oes sicrwydd ym mha flwyddyn y ganwyd ef, na blwyddyn ei farw, ond roedd yn ei flodau rhwng 1450 a 1490.
Ysgrifennodd amrywiaeth o gerddi meistrolgar, yn eu plith awdl a chywydd i Edmwnt a Siasbar Tudur sy'n eu hatgoffa am eu tras Gymreig, awdl arall i Syr Dafydd ap Tomas, cwnstabl Aberteifi, a nifer o gerddi crefyddol. Yn aml iawn fe glywir nodyn brudiol, broffwydol, yn ei gerddi 'politicaidd', cerddi a hwylusodd y ffordd i frwydr y Tuduriaid ym Mosworth ym 1485.
Roedd yn dra hyddysg hefyd: mae'n cyfeirio at seryddiaeth, y tywydd a meddygyniaethau llysieuol, ac roedd yn hoff o ddyfynnu o'r Lladin. Ymddengys mai ef a ysgrifennodd Lawysgrif Peniarth 52, sy'n cynnwys cerddi ganddo ef a Dafydd ap Gwilym.
Nid bardd natur mohono ond bardd gwareiddiad y pendefigion. Canmolodd bensaernïaeth eu tai â brwdfrydedd amlwg; gweler, er enghraifft, ei gywydd i Ystrad-fflur. Dyna paham y'i galwyd gan Saunders Lewis yn fardd perchentyaeth, yn fardd teulu. Ceir elfen sagrafennaidd yn rhai o'i gerddi, yn enwedig pan mae'n moli parhad traddodiad teulu gwâr dros y canrifoedd.
Bardd ceidwadaeth ydoedd, rheswm arall paham enillodd glod gan Lewis. Un o'i gerddi hyfrytaf, serch hynny, yw ei gerdd i wallt Llio, un o'r chwe cherdd sy'n ei gynrychioli ym Mlodeugerdd Rhydychen (gol. Thomas Parry).
Credir fod Dafydd Nanmor wedi ei gladdu yn nhiroedd y Tŷ-gwyn ar Daf, sydd erbyn hyn yn Sir Gaerfyrddin.
Meic Stephens