Cyn-hyfforddwr tîm rygbi Cymru.
Mi wnes i dyfu fyny ym Mangor, a chychwyn chwarae rygbi fel canolwr yn fy nyddiau ysgol yn Friars. Mi wnes i hefyd chwarae i dîm rygbi Bangor, pan roeddent yn chwarae ar gae ym Miwmares.
Mi symudais i wedyn i goleg yng Nghaerdydd a dechrau chwarae yn y rheng ôl. Roedd rygbi coleg yn dra gwahanol i rygbi ysgol wrth gwrs - ac roedd symud i Lundain i chwarae efo'r London Welsh yn newid mawr arall. Roeddwn yna yn ystod amser cyffroes iawn, o 1964 i 1978. Des yn gapten o'r tîm, ac mi roeddwn yn chwarae efo pobl fel JPR Williams, Gerald Davies, John Dawes a Mervyn Davies - i gyd yn chwaraewyr rhyngwladol i Gymru.
Roeddwn yn hoff iawn o'r gemau yn erbyn timau Cymru pob Pasg a Nadolig - nid yw'r traddodiad yma dal i fod bellach.
Yn 1968, mi wnes i chware i Gymru yn erbyn Lloegr, yr Alban a'r Ariannin. Roedd yn her fawr chwarae yn Twickenham.
Mi wnes i aros ym myd rygbi ar ôl gorffen chwarae; yn 1987 cefais fy newis fel hyfforddwr Cymru. Roedd yn gyfnod cyffroes arall i rygbi Cymreig, gyda chwaraewyr ifanc fel Jonathan Davies, Robert Jones a Dai Young. Ddaru o gymryd sbel i ni setlo, ond roeddem wastad yn symud yn y cyfeiriad iawn.
Ddaru ni fynd draw i'r Cwpan Byd Rygbi cyntaf yn Seland Newydd ac Awstralia yn 1987. Er i ni golli'n drwm i'r Crysau Duon yn y rownd gynderfynol, ddaru ni guro Awstralia i ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth.
Mi wnes i adael y swydd yn 1988, jest blwyddyn cyn i'r chwaraewyr ifanc dechrau symud i'r gogledd i chwarae Rugby League. Roeddwn yn ddarlithydd yn y brifysgol ym Mangor cyn i mi ymddeol.
Dwi rŵan yn lywydd ar Undeb Rygbi Gogledd Cymru ac yn ffyddiog bod y gêm yn yr ardal yma yn dod yn ei blaen yn dda. Mae'r gêm yn un broffesiynol erbyn hyn ac felly mi fydd arian a'r gallu i amharu ar bethau, ond dwi'n llawn cyffro am dîm rhyngbarthol newydd y gogledd.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi sylweddoli o'r diwedd bod yna dalent yn y gogledd, ac yn cymryd camau i ddatblygu hyn. Mae'r niferoedd o chwaraewyr o'r gogledd sy'n rhan o dimau ieuenctid Cymru wedi cynyddu ac mae'n argoeli'n dda am y dyfodol.