Hwyliwr sydd wedi cwblhau dwy ras o amgylch y byd.
Magwyd Richard Tudor ger y môr ym Mhwllheli. Roedd hwylio yn ei waed, gyda'i dad a'i frawd hefyd yn hoff iawn o'r môr. Roedd yn ddigon ffodus i gael mynychu clwb hwylio yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, wedi'i chynnal yn wirfoddol gan yr athro gwaith coed, Gwyndaf Huws. Byddai Richard yn ymarfer yng nghychod bach GP14 yr ysgol, a hefyd ar ei Mirror dinghi bach ei hun. Cystadlodd mewn nifer fawr o bencampwriaethau hwylio i blant ysgol drwy Gymru, gyda chefnogaeth lawn ei deulu.
"Dwi'n cofio mynd o un regata i'r llall gyda'r dingi ar do'r car," meddai. "Mi fydda' mam, fy chwaer a fy mrawd ieuengaf yn ista' ar lan y môr wrth i mi a fy mrawd arall gystadlu pan oeddwn i tua 10 neu 11 mlwydd oed."
Gadawodd Richard yr ysgol yn 17 mlwydd oed, wedi syrffedu ar addysg ac yn gwybod i sicrwydd beth oedd am ei wneud â'i fywyd. Sefydlodd ei gwmni ei hun yn gwneud hwyliau a gorchuddion i gychod. Bu'n rhedeg y busnes am bymtheg mlynedd, cyn penderfynu derbyn gwahoddiad i fod yn gapten ar gwch oedd yn mynd i rasio rownd y byd.
Mae Richard wedi hwylio o amgylch y byd ddwywaith, yn 1992/93 a 1996/97, yn ras Global Challenge gyda British Steel.
Meddai: "Mi wnes i brofi pob emosiwn wrth dreulio wyth mis yn hwylio rownd y byd. Mi fyddwn i'n casáu pob eiliad, wedyn yn mwynhau pob eiliad.
"Mi fyddai pob diwrnod yn wahanol, yn enwedig wrth lanio mewn gwahanol wledydd.
"Dwi'n cofio hwylio i mewn i Rio De Janeiro, efo'r ddelw o Grist yn edrych i lawr o ben y mynydd, a gweld yr holl dlodi yn y ddinas. A hefyd Capetown a Table Top Mountain - roedd yn drawiadol dros ben."
Yn ystod un o'r cyfnodau pan nad oedd yn rasio, hwyliodd i Spitzbergen yn Norwy a glanio ar rew yr Arctig.
Cychwynnodd Richard ar ei drydedd taith o amgylch y byd yn 2000 gyda Thîm Philips, ond y tro yma 'doedd o ddim mor lwcus a bu'n agos at golli ei fywyd ar y daith.
"Roedd ganddon ni gatamarán newydd, wedi'i gwneud allan o carbon fibre, gwerth 2.5 miliwn o bunnau, ond, yn naturiol, roedd rhywbeth yn bod arni," meddai.
Saith can milltir i'r gorllewin o Iwerddon, yng nghanol môr yr Iwerydd, dechreuodd y cwch ddod yn ddarnau.
"Beth wnaeth ein hachub ni yw bod cyfathrebu rŵan mor dda ar y môr," meddai Richard.
"Mi wnaethon ni allu trefnu rendezvous efo llong arall oedd yn digwydd bod ar ei ffordd i Halifax yn Nova Scotia.
"Dwi'n meddwl y buasen ni i gyd wedi marw petaen ni wedi aros ar y catamarán un diwrnod arall.
"Mi suddodd y cwch ac mi wnaethon nhw ffeindio un darn ohoni yn Greenland, a darn arall ar draeth yn Iwerddon."
Mae Richard hefyd wedi bod yn un o drefnwyr Regatta Cymru sy'n cael ei chynnal ym Mae Ceredigion.
Ar ôl wynebu sawl helynt ar y môr, a mwynhau llawer profiad, y wers bwysicaf mae Richard wedi ei dysgu, meddai, ydy i barchu'r elfennau.
"Dysgwch am yr elfennau, eu parchu nhw, a wedyn mynd allan i'w taclo nhw," yw ei neges.
Ar ôl cael cymaint o brofiadau yn hwylio o amgylch y byd, y moroedd o amgylch ei gartref yw'r lle gorau ganddo hyd heddiw. "Gogledd Bae Ceredigion ydy un o'r llefydd prydferthaf i hwylio ynddo," meddai.
"Mae gallu sbïo draw tuag at Eryri a Chadair Idris yn wych. 'Does yna ddim llawer o draffig yma na llanw cryf chwaith ac mae'r gwyntoedd yn eithaf teg. Ar ôl bod i bob man, fan hyn mae fy nghalon i," meddai.