 |
 | Chwaraewr canol cae i Gymru ac i Abertawe.
Gwnaeth Owain Tudur Jones ei farc yn fuan fel aelod rheolaidd o sgwad y Swans ar ôl ymuno ag Abertawe o Glwb Pêl-droed Bangor yn 2005 am ffi o £5000.Roedd wedi bod ym Mangor am bedair blynedd a chyn hynny roedd yn aelod o dîm Porthmadog oedd yn chwarae yn y Cymru Alliance ar y pryd.
Yn ei dymor cyntaf yn Abertawe cafodd ei alw i garfan dan 21 Cymru ar gyfer gêm gyfeillgar gyda Malta, gan ddod i'r maes fel eilydd. Cafodd ei alw hefyd i garfan lawn Cymru i'r gemau cyfeillgar yn erbyn Gwlad y Basg a Thrinidad a Tobago ond ni allodd chwarae gan fod Abertawe wedi cyrraedd y gemau ail-gyfle. Ond bu'r chwaraewr 6' 2" allan o'r gêm am ran helaeth o dymor 2006/2007 ar ôl cael anaf ddifrifol a llawdriniaeth i'w ben-glin.
Er hynny ymestynnwyd ei gontract gydag Abertawe a thua diwedd tymor 2007/2008 roedd yn ôl ar y cae.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru mewn gêm gyfeillgar gyda Gwlad yr Ia yn Reykjavik fis Mawrth 2008. Cyngor Owain Tudur Jones am gyrraedd y brig
 |  |  |
| 
|