Pêl-droediwr i Gymru, Newcastle a Norwich
Cychwynnodd Malcolm ei yrfa bêl-droed yn nhimau ieuenctid Deiniolen. Pan oedd yn 12 oed, penderfynodd yr hyfforddwr, Elfed Williams, adael iddo chwarae i'r tîm dan 15, er ei fod dair blynedd yn iau na gweddill y tîm - a fo oedd eu prif sgoriwr y flwyddyn honno.
Aeth ar brawf gyda Manchester United yn ei arddegau, ond dywedodd yr hyfforddwr ar y pryd, Ron Atkinson, ei fod yn rhy fach ac nad oedd yn ddigon dda. Felly aeth ati i'w brofi yn anghywir.
Ysgrifennodd at hyfforddwr Watford Town - Tom Walley o Gaernarfon - ac aeth i lawr i gael prawf gyda Watford. Yn anffodus, torrodd ei fraich yn y gêm gyntaf a gorfod mynd adref. Ond, ychydig cyn gadael yr ysgol, cafodd ddychwelyd i Watford ac fe sgoriodd bum gôl mewn dwy gêm a chael ei dderbyn fel chwaraewr i'r clwb.
Ar ôl Watford, symudodd i Norwich City yn 1988 am £175,000 a gwnaeth ei farc ar y clwb pan sgoriodd bedair gôl mewn gêm gwpan yr FA yn erbyn Sutton United.
Wedi hynny, aeth ymlaen i Milwall, lle denodd sylw hyfforddwr newydd Newcastle, Kevin Keegan.
Cafodd ei arwyddo i Newcastle am £300,000 yn 1993 i lenwi'r bwlch oedd wedi ei greu gan anaf Peter Beardsley.
Ymunodd â'r Magpies a hwythau ar gychwyn eu tymor cyntaf yn yr uwch-gynghrair a chafodd ddechrau da, ond, yn anffodus daeth anaf i'w ben-glin â'i yrfa i ben yn 1994, pan oedd yn 28 mlwydd oed.
Chwaraeodd 14 o weithiau dros ei wlad rhwng 1986 a 1994, gan gychwyn yn 18 oed dan hyfforddiant Mike England.
"Mi fyddai'r gohebydd Nick Parry wastad yn dweud wrtha i i drïo canu'r anthem genedlaethol yn uwch na neb arall," meddai Malcolm.
"Mae unrhyw gyfle i chwarae i'ch gwlad yn eich llenwi chi efo balchder, ac mae Mark Hughes wedi dod â'r teimlad yna yn ôl i'r chwaraewyr."
Er iddo drysori ei atgofion o sgorio dair gwaith dros ei wlad, ei atgof mwyaf amlwg yw'r gêm yn erbyn Rwmania yn 1993, pan gollodd Cymru yn y munudau olaf gan golli'r cyfle i fynd ymlaen i Gwpan y Byd yn America.
Heddiw mae Malcolm Allen yn wyneb a llais cyfarwydd fel gohebydd pêl-droed ar radio a theledu ac yn hyfforddi timau ieuenctid, gan gynnwys tîm Cymru dan 16.