 |
 | Chwaraewr pêl-droed i dimau Wrecsam, Caerdydd a Chymru
Roedd Jack Evans yn chwaraewr allweddol i dimau pêl-droed Wrecsam, Caerdydd a Chymru. Dechreuodd chwarae i'w dîm lleol yn y Bala cyn symud yn ddiweddarach i'r Trallwng.
Roedd yn aelod o dîm Wrecsam rhwng 1908 ac 1909 ond yna fe anafodd ei ysgwydd a dywedwyd wrtho na fyddai fyth yn gallu chwarae eto. O'r herwydd, rhoddodd y gorau i'r gêm yn broffesiynol ac aeth i weithio fel argraffydd ym Morgannwg gan chwarae i dîm amatur lleol Cwmparc ger Aberdâr tra'n aros i'w ysgwydd wella. Ond fe ddaeth i sylw tîm Dinas Caerdydd ac fe ddaeth y chwaraewr proffesiynol cyntaf i'w logi am y swm anrhydeddus o chwe swllt yr wythnos! Agorwyd Parc Ninian ar y cyntaf o Fedi 1910 ac Evans a sgoriodd y gôl gyntaf ar y cae y diwrnod hwnnw dros Gaerdydd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Aston Villa, er i Gaerdydd golli'r gêm o 2-1. Ar ôl gwasanaethu yn y Fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, dychwelodd Jack Evans i Gaerdydd ac fe gafodd gyfle i chwarae dros Gymru hefyd. Fe gafodd y llysenw Bala Bang oherwydd cryfder ei ergydion at y gôl ac roedd hefyd yn enwog am ei gywirdeb, sgil a ddysgodd yn ôl y sôn gan yr enwog Billy Meredith.Fe ddaeth ei yrfa ym Mharc Ninian i ben ym 1925 ac fe ymddeolodd ym 1928. Bu farw yng Nghaerdydd ym 1971. Gyda diolch i G. H. Jones am enwebu Jack Evans ac am rannu'r llun uchod ohono.
 |  |  |
| 
|