Prif leisydd poblogaidd ac actor adnabyddus.
Atebion i'ch cwestiynau chi gan y dyn ein hun...Wyddech chi?: Ymddangosodd Bryn fel hync y mis yng nghylchgrawn She yn yr 1980au.
Magwyd Bryn Fôn ym mhentref Llanllyfni a dechreuodd ganu yn fachgen ifanc yn y capel, yn yr ysgol ac fel aelod o'r Urdd. Astudiodd ymarfer corff ac astudiaethau'r amgylchedd yn y coleg cyn mynd i weithio ar fferm tra'n ceisio cychwyn ar yrfa yn y byd adloniant.

Clipiau sain o gyfweliad gyda Bryn Fôn am ei ymddangosiad yn noson Tân y Ddraig yng ngŵyl y Faenol 2007 sy'n dathlu pen-blwydd BBC Radio Cymru yn 30 oed.
Enillodd ei gerdyn ecwiti hollbwysig pan gymerodd ran yn yr opera roc Dic Penderyn yn 1977. "Roedd o'n 'chydig o fedydd tân" meddai Bryn. "Ro'n i mewn theatr newydd, yn canu gyda band mawr am y tro cynta, a'r sioeau i gyd wedi gwerthu allan."Cafodd gychwyn disglair i'w yrfa ar y sgrîn fawr pan chwaraeodd gymeriad a wnaeth i Katherine Hepburn grïo yn y ffilm The Corn is Green, a gafodd ei ffilmio ym Metws-y-coed ac Ysbyty Ifan.
Aeth ymlaen i actio yn y ffilm gyntaf ar S4C, Y Gosb.
Hywel Morgan oedd y gyfres gyntaf iddo actio'r brif ran ynddi. Roedd rhaid iddo wneud nifer o'r styntiau ei hunan ac roedd yn gyfres eithaf corfforol. Ond fel un oedd wedi astudio ymarfer corff, fe wnaeth fwynhau'r marchogaeth a'r holl waith caled roedd rhaid iddo'i wneud.
Ond mae Bryn Fôn hefyd yn enwog fel canwr. Ffurfiodd y grŵp Crysbas ar ôl gadael y Coleg a nhw oedd y band cyntaf i ganu'n fyw ar BBC Radio Cymru pan gychwynnodd y gwasanaeth hwnnw yn 1977.
Ffurfiodd Sobin a'r Smaeliaid yn 1988 ac enillodd y band gystadleuaeth Cân i Gymru ddwywaith.
Rhwng 1989 a 1993 rhyddhaodd y band 5 record hir.
Bellach mae Bryn wedi hen arfer perfformio i filoedd o ddilynwyr mewn digwyddiadau fel Gŵyl y Faenol a'r Eisteddfod gyda Bryn Fôn a'r Band, a sefydlwyd yn 1993.
Er hynny, mae'n dweud fod ei nerfau wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf.
"Fel yr enw ar dop y bil, ganddoch chi mae'r cyfrifoldeb o sicrhau fod pawb yn gyrru adref wedi cael noson dda", meddai Bryn. "Mae gorfod wynebu dros 3,000 o bobl yn gwneud i mi deimlo'n nerfus iawn, ond ar ôl cychwyn canu, mae popeth yn dod yn iawn eto."
Mae'r band wedi rhyddhau dwy albwm gyda Sain, Dyddiau Di-gymar (1994) a Dawnsio ar y Dibyn (1998) a dwy albwm ar eu label eu hunain, Label Abel - Abacus (2004) a CAM (2005).
Mae wedi parhau â'i waith fel actor ac fe wnaeth argraff yn ei bortread o Les yn y gyfres Talcen Caled ar S4C - cymeriad y gwnaeth ei chwarae am y tro cyntaf ar y llwyfan, flynyddoedd yn ôl.
Mae Bryn yn briod ag Anna ac yn byw gyda'i deulu yn Llanllyfni.
Meddai: "Dwi'n lwcus 'mod i'n gallu fforddio dod nôl i fyw o fewn milltir i ble ces i fy magu. Ar ôl byw i ffwrdd, dwi'n teimlo ei bod hi'n bwysig dod nôl a dwi'n lwcus i gael gyrfa sy'n caniatáu imi wneud hynny."
Yn 2007, Bryn Fôn a'r Band yw prif artist noson Tân y Ddraig yn y Faenol, sy'n dathlu pen-blwydd Radio Cymru yn 30 oed.