Athro, canwr a chyfansoddwr.
Magwyd Arfon Wyn yn Llanfairpwll, a mynychodd Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy. Aeth ymlaen i astudio Diwinyddiaeth ac Addysg Arbennig ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Tra yn yr ysgol, ffurfiodd fand roc trwm o'r enw Yr Atgyfodiad - aeth rhai o'r aelodau ymlaen i ffurfio Brân, band a gafodd gryn sylw yn y 70au. Yn y coleg, ffurfiodd y band Pererin, oedd yn fwy gwerinol ei naws gydag elfennau o genhadu Cristnogol yn y caneuon. Bu'r band yn boblogaidd ar y gylchdaith Geltaidd, gan berfformio yn rheolaidd yn Llydaw ac Iwerddon.
Ar ôl gadael y coleg, bu Arfon Wyn yn dysgu yn ysgolion arbennig Pendalar yng Nghaernarfon a Hafod Lôn ger Pwllheli, lle bu'n brifathro am naw mlynedd. Gwnaeth waith pwysig yno yn arloesi dulliau o ddysgu plant ag anghenion arbennig, ac mae bellach yn brifathro ar Ysgol Gynradd Biwmares, gan ganolbwyntio'n arbennig ar brif-ffrydio addysg arbennig.
Ar ôl i Pererin ddod i ben ddiwedd yr 80au, bu bwlch tan iddo ffurfio ei fand nesaf, Y Moniars. Y bwriad oedd creu band ar linellau The Pogues Cymraeg, ac yn wir roedd blas mwy Gwyddelig a Cajun ar y gerddoriaeth y tro hwn, a buan yr enillodd y Moniars ei blwyf fel un o fandiau byw mwyaf prysur a phoblogaidd Cymru. Hyd yma, maent wedi rhyddhau pum casgliad, sy'n llwyddo i ail-greu llawer o hwyl ac egni byw y band: Fe Godwn Eto (1992), I'r Carnifal (1993), Y Gorau o Ddau Fyd (1995), Hydnoed Nain yn Dawnsio (1995). Mae'r casgliadau yn
Bu'r Moniars o'r cychwyn yn fand a roddodd gyfle a dechreuad i sawl cerddor ifanc, ac roedd Harbwr Diogel (2002) yn cynnwys caneuon gyda'r gantores Elin Fflur - bu Arfon Wyn yn canu gyda'i mam, Nest Llywelyn, flynyddoedd ynghynt, yn Yr Atgyfodiad. Roedd y gân a roddodd deitl i'r albym eisoes wedi ennill gwobr Cân i Gymru, gwobr yr oedd Arfon Wyn wedi ei hennill yn barod gyda'r gân Cae o Yd. Mae eu halbym ddiweddaraf Edrych Ymlaen at Edrych yn Ôl (2005) yn cynnwys llais y gantores Sara Mai o Gaernarfon, a llu o gerddorion ifanc eraill.
Prin bod penwythnos yn mynd heibio nad yw'r Moniars ac Arfon Wyn yn perfformio'n egniol mewn gŵyl neu sioe ar draws Cymru, a bydd eu dilynwyr ffyddlon am sicrhau mai felly y bydd am flynyddoedd i ddod.
Shon Williams