Soprano ifanc byd-enwog a chyflwynydd teledu a radio
Wyddoch chi?: Mae wyneb a llais Aled Jones yn gyfarwydd dros y byd i gyd ers iddo recordio'r gân Walking in the Air, ond nid ei lais o sydd ar drac sain gwreiddiol y ffilm!
Magwyd Aled yn Llandegfan, Ynys Môn, ac fe ddechreuodd ganu'n wreiddiol fel aelod o gôr Eglwys Biwmares. Cafodd wahoddiad yn ddiweddarach i ganu yng nghôr Cadeirlan Bangor ond fe ddaeth i amlygrwydd go iawn pan gyrhaeddodd ei sengl Walking in the Air o'r ffilm The Snowman y pump uchaf yn siartiau'r Nadolig.
Ar ôl rhyddhau ei albwm gyntaf, fe gafodd wahoddiadau i gynnal cyngherddau ar draws y byd gan ganu gyda Cherddorfa Philarmonic Los Angeles yn yr Hollywood Bowl, gyda Leonard Bernstein yn y Barbican ac mewn perfformiad preifat ym Mhalas Buckingham i Dywysog a Thywysoges Cymru.
Mae ei recordiau o'r cyfnod hwn yn cynnwys Walking in the Air, Voices from the Holy Land a'r Ugly Duckling.

Ond prawf o'i enwogrwydd go iawn yn ystod y cyfnod hwn oedd iddo gael pyped Spitting Image wedi ei seilio arno!
Ar ôl astudio cerdd yn Academi Frenhinol Llundain, datgelodd Aled ei lais bariton aeddfed newydd yn sioe Andrew Lloyd Webber, Joseph and his Technicolour Dreamcoat.
Bellach mae'n wyneb a llais amlwg ar deledu a radio eto yn sgîl ei ymddangosiadau ar raglenni fel Songs of Praise ac On Show ar y BBC ac Ar y Bocs ar S4C.
Mae'n byw gyda'i wraig Claire, a'i ferch fach, Emilia yn Barnes ger Llundain.
Bu hefyd yn gwneud enw iddo ei hun fel dawnsiwr ar y gyfres Strictly Come Dancing.
Datgelodd ar raglen Showbusnesan ar BBC Radio Cymru mai'r gystadleuaeth ddawnsio yma oedd y peth gorau iddo ei wneud yn ei fywyd erioed: "Wnes i ddim hyd yn oed dawnsio yn fy mhriodas. Pan o'n i yn yr ysgol, ro'n i yn y bar fel arfer yn gwylio pawb arall yn dawnsio, do'n i ddim yn medru gwneud o gwbl," meddai mewn cyfweliad ar y rhaglen gyda Ieuan Rhys.
"Mi wnes i Joseff am flwyddyn ac ro'n i'n ymwybodol mod i'n stiff ofnadwy, ddim yn medru symud. Ond mae hyn wedi bod yn brofiad anhygoel. Y peth gorau dwi wedi ei wneud yn fy mywyd erioed - mae'n well na canu, yn well na rhyddhau recordiau.
"Dwi'n teimlo yn gryfach, yn fwy hyderus, mae'r llais yn well a dwi'n sefyll yn well. A dwi wedi colli stôn a hanner o bwysau! Felly does dim ond da wedi dod ohono fo," ychwanegodd.