Prif weinidog Awstralia yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
William Morris Hughes oedd y prif weinidog amlwg cyntaf o Awstralia ar y llwyfan rhyngwladol a hynny'n arbennig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Fel y nodwyd eisoes, ganwyd ef yn Llundain ond treuliodd flynyddoedd ei blentyndod yn Llandudno. Mae ei hen ysgol bellach yn dŷ preifat ond gosodwyd arwydd ar y tŷ i nodi safle'r hen ysgol.
Symudodd i Lundain yn 1872 a gweithio fel disgybl-athro yno yn 1874. Yna yn 1884, ymfudodd i Awstralia a chwrdd â'i ddarpar-briod, Elizabeth Cutts. Fe gafon nhw chwech o blant - Ethel, William, Lily, Dolly, Ernest a Charles.
Bu farw Elizabeth yn 1906 ond yn 1911 fe ail-briododd William â Mary Ethel Campbell ar 26 Mehefin yn Eglwys Crist, De Yarra Melbourne. Fe gawson nhw un ferch, Helen.
Etholwyd William Morris Hughes yn aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Awstralia yn 1901 ac mae'n dal y record am y gwasanaeth hiraf yno sef dros hanner can mlynedd!
Etholwyd ef yn Brif Weinidog Awstralia yn 1915 ac roedd o'n amlwg o blaid y rhyfel yn Ewrop. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe deithiodd i Brydain ac i Ffrainc i weld milwyr Awstralia a fo oedd y prif weinidog cyntaf i gynrychioli Awstralia dramor. Dychwelodd i Ewrop yn 1919 i gymryd rhan yn nhrafodaethau heddwch Versailles.
Fe fu'n brif weinidog am saith mlynedd tan 1922 ac yn Gynrychiolydd tan ei farwolaeth yn Sydney ar 28 Hydref 1952.
Roedd yn cydoesi â Lloyd George ac yn ôl rhai, roedd y ddau yn anfon negeseuon Morse at ei gilydd yn Gymraeg yn ystod y rhyfel er mwyn eu cadw'n gyfrinach.