 | Athro blaenllaw ieithyddiaeth.
Mae David Crystal OBE yn enwog drwy'r byd fel awdurdod ar iaith a ieithyddiaeth. Mae'n gweithio o'i gartref yng Nghaergybi fel awdur, golygydd, darlithydd a darlledwr. Ganwyd David Crystal yng Ngogledd Iwerddon ond fe dreuliodd ei flynyddoedd cynnar yng Nghaergybi. Symudodd y teulu i Lerpwl ym 1951 ac yno aeth i Goleg y Santes Fair ac yna i Brifysgol Reading. Mae'n enwog am ei waith ymchwil ar yr iaith Saseneg a hynny'n bennaf ym maes goslef ac arddull. Bellach mae'n Athro Emeritus mewn ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Mae'r Athro Crystal yn enwog am ei ddau wyddoniadur sef The Cambridge Encyclopedia of Language a The Cambridge Encyclopedia of the English Language. Mae wedi ysgrifennu dros ddeugain o lyfrau gan gynnwys: Language Play (1998)Language Death (2000)Words on Words (2000)Language and the Internet (2001)Diolch i Ian Saunders o Fae Colwyn am awgrymu Dr Crystal.
 |  |  |
| 
|