 |
 | Mapiwr ac anturiaethwr a aeth ar drywydd 'Indiaid Cymraeg' America.
Magwyd John Evans yn Waunfawr ger Caernarfon. Wedi'i annog gan Iolo Morgannwg, aeth ar daith i America i chwilio am yr 'Indiaid Cymraeg' a oedd, yn ôl y gred, yn ddisgynyddion i'r tywysog Madog ab Owain o Wynedd.Yn ôl y chwedl, hwyliodd Madog i America yn y ddeuddegfed ganrif ac ymsefydlu yno. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, roedd yn cael ei gysylltu â llwyth y Mandaniaid a chredid bod elfennau o'u hiaith yn debyg i'r Gymraeg. Cyrhaeddodd John Evans Baltimore fis Hydref 1792 cyn bwrw ymlaen ar droed tua'r gorllewin i chwilio am 'lwyth coll' yr Indiaid llygatlas. Pan gyrhaeddodd St Louis, cafodd ei garcharu gan y Llywodraethwr Sbaenaidd cyn cael ei ryddhau, a mynd ati i gynorthwyo'r Albanwr James MacKay i sefydlu amddiffynfeydd ar hyd afon y Missouri ac agor ffordd tuag at y Môr Tawel. Erbyn 1796, ar ôl gorfod dianc rhag yr Indiaid Sioux, llwyddodd John Evans i gyrraedd y Mandaniaid yng ngogledd Dakota. Bu'n byw efo nhw dros y gaeaf a chafodd ddylanwad mawr arnynt. Ond daeth i'r casgliad yn ddiweddarach nad oedd cysylltiad rhwng y Mandaniaid a'r Cymry. Er hynny, gwnaeth gyfraniad pwysig i hanes America drwy fod y dyn gwyn cyntaf i fapio hynt yr afon Missouri y tu hwnt i'r pwynt lle mae'r Mississippi yn ymuno â hi. Bu farw yn ddi-waith yn New Orleans yn 1799 yn ddim ond 29 mlwydd oed. Ydych chi'n gwybod mwy am John Evans neu ydych chi'n un o'i ddisgynyddion? Gadewch inni wybod!
 |  |  |
| 
|