 |
 | Actor llwyddiannus sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan James Bond.
"Dwi'n meddwl y basa unrhyw un yn wallgof i ddilyn Connery," oedd ymateb Timothy Dalton pan ofynwyd iddo chwarae rhan Bond yn wreiddiol.Yn un o bump o blant, cafodd ei eni ym Mae Colwyn ar ôl i'w dad gael ei leoli yno yn ystod y rhyfel. Symudodd i Swydd Derby yn bedair oed a phan ddaeth ei ddiddordeb mewn actio i'r amlwg, ymunodd â'r Theatr Ieuenctid Genedlaethol lle perfformiodd yn Little Malcolm and his Struggle against the Eunuchs. Daeth ei ran gyntaf mewn ffilm yn 1968 gyda Katherine Hepburn yn The Lion in Winter ac ymhlith ei ffilmiau eraill mae Permission to Kill a Flash Gordon. Mae Dalton wedi cael llwyddiant mawr yn chwarae rhai o gymeriadau mwyaf rhamantaidd y sgrîn fel Mr Rochester mewn addasiad ar gyfer y teledu o nofel Jane Eyre a'r Heathcliffe gwyllt, llawn dirgelwch, yn Wuthering Heights. Ond fel 007 y mae Dalton yn fwyaf adnabyddus er iddo wrthod rhan y sbïwr soffistigedig i ddechrau yn 1968. Efallai fod hyn wedi bod yn benderfyniad doeth iawn ar ei ran gan mai ychydig sy'n cofio'r actor a gymerodd drosodd gan Sean Connery, George Lazenby, yn On Her Majestys Secret Service! Ond erbyn 1987, roedd Dalton yn fwy na pharod i ymgymryd â'r dasg o ddilyn Roger Morre ac fe wnaeth ddwy ffilm Bond sef Living Daylights a Licence to Kill cyn i Pierce Brosnan gymryd yr awenau.
 |  |  |
| 
|