Personoliaeth deledu liwgar oedd yn enwog am ei bywyd personol cythryblus.
Roedd Paula Yates yn wyneb cyfarwydd iawn yn yr wythdegau a'r nawdegau fel un o gyflwynwyr The Tube a Big Breakfast a hefyd oherwydd ei bywyd preifat helbulus.Roedd yn enwog am ei dewis anghyffredin o enwau plant -pedair merch o'r enw Fifi Trixibell, Peaches, Pixie a Heavenly Hiraani Tiger Lily.
Ganwyd Paula Yates ym Mae Colwyn yn ferch i gyflwynydd y rhaglen Stars on Sunday, Jess Yates a'r actores Elaine, neu Heller Toren. Roedd ei rhieni yn rhedeg gwesty'r Deganwy Castle ar un adeg cyn symud yn ddiweddarach i'r Rowen ger Conwy.
Ar ôl i briodas ei rhieni chwalu, symudodd Paula i Majorca am gyfnod cyn dychwelyd i Brydain a byd o bartïon gwyllt. Yna fe gafodd waith fel cyflwynydd rhaglen gerddoriaeth The Tube efo Jools Holland.
Yn 1986, priododd ei phartner, Bob Geldof, prif leisydd y Boomtown Rats a sylfaenydd yr elusen Live Aid. Fe gawson nhw dair o ferched.
Ond fe aeth popeth o chwith yn dilyn cyfweliad Paula â chanwr y grwp INXS, Michael Hutchence, yn ei 'hystafell wely' ar raglen The Big Breakfast. Fe syrthiodd y ddau mewn cariad a gadawodd Paula ei gŵr.
Cyn marwolaeth Michael yn 1997 fe aned merch iddyn nhw, Tiger Lily. Ond aeth bywyd Paula ar chwâl ar ôl colli Michael, a bu farw yn 2000 ar ôl cymryd gorddos o gyffuriau.
Cyn ei marwolaeth, roedd hi hefyd wedi cael gwybod nad Jess Yates oedd ei thad go iawn ond yn hytrach y cyflwynydd teledu o'r 70au, Hughie Greene.
Wedi ei marwolaeth, fe fabwysiadwyd merch fach Paula a Michael Hutchence gan ei gŵr cyntaf, Bob Geldof, fel ei bod yn cael ei magu gyda gweddill ei chwiorydd.