Seren y ffilm King Kong sydd wedi ei henwebu am wobr Oscar a Bafta.
Adolygiad o King Kong Wedi ei henwebu am Oscar a Bafta am ei rhan yn y ffilm 21 Grams, mae'r actores Naomi Watts, 35, wedi dod i amlygrwydd yn Hollywood yn weddol hwyr yn ei gyrfa diolch i rannau mewn ffilmiau fel The Ring a Mulholland Drive dan gyfarwyddiaeth David Lynch
Er ei bod fel arfer yn cael ei hystyried yn actores o Awstralia, fel ei chyfaill Nicole Kidman, mae ganddi gysylltiadau cryf ag Ynys Môn, lle bu'n byw am gyfnod pan yn blentyn.
Cafodd ei geni yn swydd Caint ond wedi marw ei thad pan oedd yn saith oed penderfynodd ei mam, Myfanwy, a oedd yn hanner Cymraes, y byddai'n well iddi hi a'i brawd gael eu magu gan eu taid a'u nain, Hugh a Nikki Roberts, ar Ynys Môn.
Roedd tad Naomi, Peter Watts, yn beiriannydd sain gyda'r grŵp Pink Floyd ac mae ei brawd, Ben, bellach yn ffotograffydd llwyddiannus yn Efrog Newydd.
Roedd Hugh Roberts yn hanu o fferm Llanfawr ger Llangefni ac wedi cyfarfod â'i wraig o Awstralia, Nikki, tra'n filwr yn yr Ail Ryfel Byd. Roedden nhw'n byw yng Nghaint pan aned Myfanwy ond wedi symud nôl i Lanfawr erbyn y cyfnod pan daeth Ben a Naomi i fyw atyn nhw.
Yn ôl cyfyrder iddi, Dave Craddock o'r Gaerwen, mae ei gwreiddiau yng Ngwlad y Medrau yn bwysig iddi.
"'Dwi'n credu fod Naomi yn falch iawn o'i gwreiddiau Cymreig a 'dydi i ddim yn cyfrif ei hun yn Aussie. Roedd hi'n addoli ei thaid oedd wedi dod yn ail dad iddi ar ôl i'w thad ei hun farw pan oedd hi'n ifanc iawn," meddai mewn cyfweliad diweddar gyda BBC Newyddion Ar-lein.
"Daeth Naomi a Ben i fyw yma pan oedd hi tua wyth neu naw oed ac rydw i'n credu iddi fynd i Ysgol Gynradd Henblas yn Llangristiolus," ychwanegodd.
Mewn cyfweliad yn y cylchgrawn Interview yn 2001 soniodd Naomi am ei chyfnod yn cael ei magu gan ei thaid a'i nain: "Roedden ni'n cael gwersi Cymraeg mewn ysgol ynghanol unlle tra bod pawb arall yn siarad Saesneg. Lle bynnag y byddwn i'n symud wedyn, ro'n i'n addasu ac yn dysgu'r acen leol. Mae'n arwyddocaol rŵan gan fy mod yn actores .... roedd llawer iawn o dristwch yn perthyn i fy mhlentyndod, ond dim prinder cariad."
Ymfudodd y teulu i Awstralia yn ddiweddarach ac yno y treuliodd Naomi flynyddoedd ei harddegau.
Y tro diwethaf i Mr Craddock ei gweld oedd pan ddaeth ei brawd Ben i adnewyddu ei lwon priodas yn Eglwys Llangristiolus tua phedair blynedd yn ôl: "Dyna'r tro olaf inni gwrdd fel teulu.
"Rydw i'n cofio fod y briodas ar ddiwrnod bendigedig o braf ag Eryri yn y cefndir. Roedden nhw wrth eu boddau yma ac yn credu ei fod yn un o'r llefydd gorau yn y byd. Roedd hyn cyn iddi ddod yn enwog o ddifri ond mae hi'n ferch hyfryd - yn naturiol, didwyll a normal.
"Yn y briodas mi wnaeth hi araith yn dweud faint fyddai 'taid' wedi licio bod yno.
"Mae'r teulu'n falch iawn ohoni."