Diddanwr, actor a chanwr
Gari Williams oedd un o gomedïwyr a diddanwyr mwyaf poblogaidd Cymru ac fe deimlwyd colled mawr ar ei ôl pan fu farw'n sydyn fis Gorffennaf 1990 yn 44 mlwydd oed.Ei enw genedigol oedd Emyr, a chafodd ei fagu ym Mryn Rhyd yr Arian, Llansannan. Yma, cafodd ysbrydoliaeth ar gyfer nifer o'r cymeriadau gwledig a bortreodd yn ddiweddarach, cyn iddo fo a'i deulu symud i Watling Street, Llanrwst, lle daeth i adnabod trigolion y dre hefyd.
Ei swydd gyntaf oedd gwerthu bwyd wedi'i rewi, er i'w dad geisio ei annog i fynd yn saer coed fel yntau. Gyda'r nos, byddai Gari'n cynnal cyngherddau fel rhan o ddeuawd canu llwyddiannus a phoblogaidd Emyr ac Elwyn, gyda'i frawd. Honai Gari mai swilder Elwyn wnaeth iddo fo orfod gwneud y gwaith cyflwyno rhwng caneuon i gyd ei hun, gan felly ymarfer ei ddawn fel comedïwr a'r gallu i berfformio o flaen cynulleidfa.
Yn 1976, cafodd y brif rhan ym mhantomeim Cwmni Theatr Cymru, Madog, ac ers hynny daeth yn wyneb cyfarwydd iawn yn eu pantomeimiau blynyddol.
Daeth yn fwy adnabyddus gyda'i raglen Galw Mewn ar Radio Cymru a Galw Gari ar deledu yn nechrau'r 1980au yn ogystal â llu o gyfresi eraill fel y sefyllfa gomedi Eric gyda Stewart Jones a Myfanwy Talog (ac wrth chwarae y mecanic Edgar Sutton ym Mhobol y Cwm).
Cyhoeddwyd casgliad o straeon ac atgofion am Gari wedi ei farwolaeth, o dan y teitl Mab Hynaf Missus Wilias. Cyhoeddwyd y llyfr gan ei hen gyfaill Myrddin ap Dafydd, a ddaeth i'w hadnabod yn ystod dyddiau yr Urdd yn Llanrwst.