 |
 | Actores, comedïwraig ac aelod o'r ddeuawd deledu, French and Saunders.
Er bod Dawn French yn un o berfformwyr comedi amlycaf Prydain, ychydig sy'n gwybod iddi gael ei geni yng Nghaergybi yn Ysbyty Famaeth y Gors. Roedd y teulu ar y pryd yn byw yn lleol gan fod ei thad yn gweithio yn RAF y Fali.Cafodd ei hanfon i ysgol breswyl yn Plymouth pan oedd yn 11 oed cyn ennill ysgoloriaeth i Efrog Newydd. Daeth nôl i Brydain a mynychu'r Central School of Speech and Drama yn Llundain i hyfforddi i fod yn athrawes. Yn y coleg hwnnw y cyfarfu â Jennifer Saunders, a daeth y ddwy yn bartneriaid comedi a busnes. Mae'r ddwy wedi cydweithio ers sawl blwyddyn bellach ond wedi gweithio ar wahân hefyd. Mae Jennifer wedi gweithio ar y gyfres boblogaidd Absolutely Fabulous a Dawn ar y llaw arall wedi serennu yng nghyfres gomedi Richard Curtis, The Vicar of Dibley, a gyfarwyddwyd, gyda llaw, gan Gymro arall, Dewi Humphreys. Yn fwy diweddar ymddangosodd yn Wild West. Mae hi rwan yn byw yn Berkshire gyda'i gŵr, y comedïwr Lenny Henry, a'u merch Billie.
 |  |  |
| 
|