Actores ddaeth i amlygrwydd fel Janine Butcher ar Eastenders
Fe ddaeth Charlie, neu Charlene, Brooks yn enwog am chwarae rhan y ferch gynllwyngar a dialgar Janine Butcher yn yr opera sebon, Eastenders.
Er iddi gael ei geni yn Llundain, symudodd y teulu i'r Bermo pan oedd Charlie yn fabi ac o'r cychwyn cyntaf dangosodd ddiddordeb mawr mewn actio. Cafodd gyfle i gymryd rhan mewn sawl cynhyrchiad ysgol a chyda chwmni amatur Theatr y Ddraig yn y Bermo.
Yno y gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf ar lwyfan lle roedd hi'n cymryd rhan mewn pantomeimiau a chyngherddau Nadolig - yn eironig o ystyried ei rôl ddiweddarach fel Janine, bu'n chwarae rhan angel un flwyddyn.
A hithau yn dal yn ei harddegau, erfyniodd ar i'w rhieni adael iddi fynd i ysgol theatr yn Llundain. Fe wnaethon nhw ildio a symudodd i Lundain ar ei phen ei hun i astudio drama. Yn ddiweddarach, symudodd ei mam a'i brawd i fyw yno hefyd.
Mae Charlie wedi cael rhannau mewn rhaglenni teledu amrywiol gan gynnwys London's Burning, The Bill a Jonathan Creek. Ond daeth i amlygrwydd go iawn ar ôl dechrau chwarae rhan Janine yn Sgwâr Albert. Mae ei thad yn dal i fyw yn y Bermo ac mae Charlie yn dal i ddychwelyd yno i weld ei theulu o bryd i'w gilydd.
Hi ydy'r drydedd actores i chwarae Janine ac ar ei phen-blwydd yn ddeunaw y clywodd ei bod wedi cael y rhan. Dair blynedd yn ddiweddarach, a hithau â gwallt golau erbyn hynny, roedd yn rhan allweddol o un o brif straeon y gyfres yn y cyfnod diweddar, sef marwolaeth ei gŵr newydd, Barry Evans, ychydig oriau wedi eu priodas yn yr Alban.
Beth fydd nesa i Janine, ac i Charlie, tybed?