Morwr hoff o antur - ac o ffantasi
Caiff Tristan Jones ei gydnabod fel un o'r awduron morwrol mwyaf
llwyddiannus erioed. Yn awdur 16 o gyfrolau, gwerthodd ei lyfrau
hunangofiannol rhwng chwech a naw mil o gopïau clawr caled yr un
yng ngwledydd Prydain, a dwywaith hynny eto yn yr Unol
Daleithiau.
Does wybod faint a werthwyd o'i gyfrolau clawr meddal.
Erbyn iddo farw yn 1995 roedd y Cymro rhyfeddol hwn wedi sefydlu
pob math ar record forwrol.
Rhestr anhygoel o gampau
Rhwng 1953 a blwyddyn ei farw roedd
wedi hwylio 400,000 milltir, a chynifer â 180,000 ohonynt ar ei ben ei
hun.
Roedd wedi croesi'r Môr Iwerydd ugain gwaith ac wedi hwylio o
amgylch y byd dair gwaith a hanner. Ef oedd y cyntaf erioed i hwylio o
amgylch Gwlad yr Iâ.
Ef hwyliodd bellaf i'r gogledd erioed mewn cwch
hwylio.
Ef dreuliodd y cyfnod hwyaf erioed ar gwch yng nghanol
rhew'r Arctig.
Ef oedd y cyntaf i fynd drwy Gamlas Panama mewn
cwch hwyliau.
Ef lwyddodd i hwylio bellaf i fyny'r Amazon. Ef oedd y
cyntaf i hwylio ar ddyfroedd isaf ac uchaf y byd, sef ar y Môr Marw yn
Israel ac ar Lyn Titicaca yn Bolivia.
Ef oedd y cyntaf i groesi cyfandir
De America a'r cyntaf erioed i hwylio ar y Mato Grosso yn Brasil.
Hunangofiant anturus
Roedd cynnwys hunangofiannau Tristan Jones yr un mor anhygoel
â'r nofelau a ysgrifennodd.
Er enghraifft, fe'i ganwyd mewn storm
enbyd yn 1924 ar fwrdd llong stemar oedd yn cario nwyddau oddi ar
ynysoedd Tristan da Cunha.
Dyna a roddodd iddo ei enw bedydd.
Roedd ei wreiddiau yn ardal y Bermo, mewn pentref bach o'r enw
Llangareth.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n rhan o rai o frwydrau
mwyaf erchyll llynges Prydain.
Yn wir, erbyn iddo farw yng Ngwlad
Thai roedd wedi dod yn eicon i bawb a oedd â diddordeb ym maes
morwriaeth, a phenderfynodd yr awdur Anthony Dalton ysgrifennu
cofiant diffiniol o'r Cymro lliwgar.
Faint oedd yn wir ?
Er mawr syndod iddo, canfu fod Tristan Jones wedi creu bywyd
iddo'i hun a oedd yn dra gwahanol i'w fywyd go-iawn.
Yn gyntaf, nid
Tristan oedd ei enw o gwbl, ond Arthur.
Nid oddi ar un o ynysoedd Môr
Iwerydd y'i ganwyd ond mewn ysbyty yn Lerpwl, yn fab i ferch
dosbarth gweithiol ddibriod o Swydd Gaerhirfryn.
Fe'i magwyd nid
yng nghanol cychod ond mewn cartref plant amddifad lle derbyniodd
ychydig iawn o addysg, ac os oedd ei wreiddiau yn ardal y Bermo o
gwbl, yn sicr nid oeddynt yn Llangareth gan nad oes y fath le yn bod.
Canfu Dalton hefyd mai yn 1929 y ganwyd Jones.
Golyga hynny
iddo ymuno â'r llynges flwyddyn wedi i'r rhyfel ddod i ben, gan
dreulio 14 mlynedd na fuont yn gyffrous mewn unrhyw ffordd.
Meddwi, ymladd - a hudo
Ar ôl gadael y llynges prynodd Tristan Jones hen racsyn o gwch a
hwyliodd am Fôr y Canoldir gan hurio'i gwch allan i unrhyw un oedd
ei angen.
Rhoddodd gynnig ar smyglo chwisgi ar ambell noson
dywyll.
Meddwai'n rheolaidd a byddai'n uchel ei gloch ac yn barod
â'i ddyrnau.
Eto i gyd roedd ganddo ryw bresenoldeb a wnâi i bobl
wrando arno. Roedd ganddo lais hudolus - llais a gallu bardd, yn ôl
rhai.
Doedd ganddo ddim teulu na chysylltiadau agos a dyna, mae'n
debyg, a'i gwnaeth hi'n hawdd iddo lunio bywyd ffantasi iddo'i hun
a chynnal y ddelwedd honno am gyfnod mor hir.
Anturiaethau go-iawn
Roedd rhai o'i ddisgrifiadau o'i fywyd yn wir. Oedd, yr oedd wedi
dysgu ei hun i hwylio ac i ysgrifennu ac, yn wir, cymerodd at y ddwy
grefft fel pysgodyn at ddŵr.
Do, fe fu ar y Mato Grosso, a hynny pan
oedd yn ei bedwardegau.
Oddi yno, hwyliodd i Efrog Newydd lle, yn
Greenwich Village, bu'n rhoi trefn ar ei fywyd.
Neu, yn hytrach, bu'n
aildrefnu ei fywyd.
Dros gyfnod o dair blynedd ysgrifennodd chwe
chyfrol ac yma y ganwyd y Tristan Jones chwedlonol.
Wedi iddo greu bywyd newydd iddo'i hun aeth ati i geisio byw'r
bywyd hwnnw.
Penderfynodd deithio'r byd er mwyn hyrwyddo'i
lyfrau ac i godi arian ar gyfer mentrau newydd, ond yn 1982 cafodd
ergyd drom wrth iddo golli ei goes chwith.
Fe'i torrwyd i ffwrdd mor
uchel â'i glun yn dilyn achludiad i'r galon a oedd yn fygythiad i'w
fywyd.
Serch hynny, profodd Tristan Jones nad siaradwr gwag
ydoedd.
Llwyddodd, ar un goes, i hwylio ar draws Môr Iwerydd,
trwy rwydwaith o afonydd Ewrop ac, yn y pen draw, mor bell â
Gwlad Thai er mwyn profi iddo'i hun ac i'r byd fod modd i rai o dan
anfantais gorfforol barhau i fyw bywyd llawn.
Bedair blynedd yn ddiweddarach collodd ei goes dde o ganlyniad i
fadredd ond parhaodd i frwydro, gan ddal i herio, a dal i hawlio
campau anhygoel.
Bu farw ar 21 Mehefin 1995.
Y gwirionedd yn rhyfeddach na'r ffantasi
Tybed, os oedd cymaint o hanesion amdano'n rai ffug, a ddylid rhoi
coel ar ei honiad ei fod yn Gymro?
Does dim prawf o hynny, ond mae
ei gyfenw'n awgrymu hynny'n gryf.
A pham honni bod yn Gymro pan
allai yn hawdd fod wedi mabwysiadu cenedligrwydd llawer mwy
egsotig?
Yr hyn sy'n rhyfedd, erbyn iddo sylweddoli fod y diwedd yn
dod, yw iddo gyfaddef i rai enghreifftiau o dwyll.
Er enghraifft, roedd
wedi cuddio'r ffaith ei fod yn hoyw, ond pan deimlodd nad oedd ganddo
unrhyw beth i'w golli mwyach, cyfaddefodd i hynny.
Pan gyhoeddodd ei gyfrol hunangofiannol The Incredible Voyage yn
1977, gwnaeth hynny fel petai'n adrodd hanes ei fywyd, ond cymysgedd
o'r gwir a'r hyn yr hoffai iddo fod yn wir oedd yn y gyfrol.
Eto, er iddo
greu bywyd dychmygol iddo'i hun, y gwir amdani yw nad oedd angen
iddo ymestyn yr hanesion amdano'i hun o gwbl.
Roedd yn forwr naturiol
a medrus o'i gorun i'w draed, yn ysgrifennwr greddfol ac yn gryn fardd.
Petai ond wedi sylweddoli hynny, roedd yn fwy o gymeriad mewn
bywyd go-iawn nag ydoedd yn ei ddychymyg ac yn ei lyfrau.
Cafwyd awgrym o duedd Tristan Jones i addurno ffeithiau pan
ddywedodd unwaith, 'Mae fy hanesion i gyd yn wir - ond byddaf yn
eu cofio'n wahanol bob tro'.
Petai wedi cael byw yn hwy a mwynhau
iechyd gwell, pwy a ŵyr na fyddai wedi cyflawni'r holl anturiaethau
yr honnodd iddo'u cyflawni?
Lyn Ebenezer