'Robin Hood' Cymru - herwr, uchelwr a bardd.
Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau bu Dyffryn Conwy yn faes y gad
wrth i gefnogwyr Efrog a Lancaster frwydro yn erbyn ei gilydd.
Ystyrid llawer o'r ymladdwyr partisan hyn yn herwyr ac yn
ysbeilwyr, gyda'r cyhuddiad yn dibynnu'n hollol ar deyrngarwch yr
ymladdwyr a'u cyhuddwyr.
Un o brif warchodfeydd yr herwyr oedd yn cefnogi Lancaster oedd
hosbis Marchogion Sant Ioan yn Ysbyty Ifan yn Nolgynwal, ar y ffin
rhwng siroedd Caernarfon a Meirionnydd ac arglwyddiaeth Dinbych.
Yno, yn Ninas Noddfa, y câi'r herwyr a'r ysbeilwyr gymorth a gofal.
Roedd Dafydd ap Siencyn ymhlith cefnogwyr mwyaf blaenllaw
Lancaster. Math o herwr poblogaidd oedd Dafydd, a chred rhai
ysgolheigion mai ef oedd cynsail yr arwr Seisnig Robin Hood, ond yr
hyn a wnâi Dafydd yn wahanol i herwr cyffredin oedd y ffaith ei fod
hefyd yn uchelwr ac yn fardd - cyfuniad perffaith ar gyfer sicrhau
anfarwoldeb.
Ystyrid Dafydd yn herwfilwr eofn a gwydn, a'i gadarnle oedd
craig Carreg Gwalch ger Llanrwst. Yno llwyddodd i gadw cefnogwyr
Efrog allan o gwmwd Nantconwy tan 1468. Roedd Dafydd a'i debyg
yn nodweddiadol o'r milwyr hynny a oroesodd Owain Glyndŵr - o'u
cael eu hunain heb achos teilwng i ymladd drosto, fe droesant yn
herwyr ac ysbeilwyr. Hwy oedd ail genhedlaeth milwyr Glyndŵr ac
yn wir caent eu hadnabod fel Plant Glyndŵr. Yn eu plith roedd
milwyr oedd â phrofiad o ysbeilio a brwydro yn Ffrainc. Yn achos
Dafydd, cefnogodd achos Lancaster ond gallasai'n hawdd fod wedi
cefnogi Efrog.
Doedd fawr o awdurdod yn nhiroedd y Mers, a chafodd yr herwyr
dragwyddol hynt i ddwyn, ysbeilio a lladd. Ceir hanesion am ladron
pen-ffordd, dwyn gwartheg, herwgipio, dwyn oddi ar fasnachwyr,
môr-ladrata a hyd yn oed ymosodiadau ar drefi cyfan. I rai, roedd yr
herwyr hyn yn arwyr, ond i eraill dihirod oeddynt.
Hawdd deall penderfyniad rhai o'r cyn-filwyr hyn i droi'n herwyr.
Yn dilyn rhyfeloedd Glyndŵr roedd y Cymry'n waeth eu byd na
chynt hyd yn oed. Mabwysiadwyd deddfau newydd yn gwahardd
Cymry rhag perchenogi tir o fewn trefi'r ffin. Ni chaent ddal swyddi
bwrdeistrefol, cario arfau, ymgynnull heb ganiatâd na dal unrhyw
swydd o bwys yng ngwasanaeth y Saeson. Yn wir, gellir dweud bod
y deddfau newydd hyn wedi troi pob Cymro a Chymraes yn herwr
bron iawn. Hawdd deall, felly, sut y trowyd rhai o'r herwyr a'r
ysbeilwyr hyn yn arwyr gan lawer o'u cyd-Gymry.
Erbyn Rhyfel y Rhosynnau roedd y Cymry wedi eu tynnu i mewn
i'r frwydr a rhaid oedd iddynt ddewis eu hochr. Tueddai ochr
ddwyreiniol Cymru i gefnogi Efrog yn bennaf, a hynny oherwydd
dylanwad teulu Mortimer a oedd yn berchen ar stadau enfawr yn y
Mers. Yn y de, ceid cefnogaeth gref i Lancaster oherwydd dylanwad
Syr William Herbert o Raglan. Er ei fod yn byw yn y gogledd ddwyrain,
dewisodd Dafydd ap Siencyn gefnogi Lancaster.
Yn ogystal â bod yn filwr a bardd roedd Dafydd hefyd yn hanu o
linach bendefigaidd, ei dad yn un o ddisgynyddion Marchudd a'i fam
yn ferch i gefnogwr mwyaf pybyr Owain Glyndŵr, sef Rhys Gethin.
Bu hwnnw'n allweddol ym Mrwydr Pilleth yn 1401 a Brwydr
Brynglas yn 1402.
Ceir sôn am Ddafydd yng nghyfrol Syr John Wynn ar hanes teulu
Gwydir, lle disgrifir ef fel herwr enwog a dyn anhygoel o ddewr.
Llwyddodd, ochr yn ochr â Robert ap Meredydd, i ddal Castell
Harlech, ac yn 1468 llwyddodd ef a Ieuan ap Meredydd a'u dynion i
ysbeilio arglwyddiaeth Dinbych. Dywedir i Dafydd hefyd ladd dau o
swyddogion y Goron, Henry Heaton a Richard Pemberton.
O ganlyniad i hynny, danfonodd y Brenin yr Arglwydd Herbert a
byddin enfawr i ymosod ar siroedd Caernarfon a Meirionnydd ac i
osod gwarchae ar Gastell Harlech gan orfodi ei ddeiliaid i ildio yn
1468.
Dywedir i Dafydd hefyd frwydro yn erbyn Hywel ap Ifan ap Rhys
Gethin a oedd yn byw, ar ddechrau teyrnasiad Edward IV, yng
Nghastell Dolwyddelan. Ystyrid hwnnw hefyd yn herwr. Ceir sôn
am Dafydd yn llwyddo, gyda chymorth swyddogion Seisnig, i
wenwyno Hywel ap Ifan yn ei wely ym Mhennamen a'i ddwyn yn
garcharor i Gastell Conwy.
Fel pob herwr gwerth ei halen aeth Dafydd ar ffo, gan ddewis
Iwerddon yn guddfan, a bu yno am tua blwyddyn cyn dychwelyd i
Gymru. Erbyn hynny honnir ei fod ef a'i ddilynwyr wedi eu gwisgo
mewn lifrai gwyrdd gan gymryd arnynt fod yn dylwyth teg er mwyn
codi braw ar unrhyw rai a gaent eu temtio i ymosod ar eu mintai.
Buont yn crwydro'n gyfrinachol dros fynyddoedd a thrwy goedwigoedd gan greu braw ac edmygedd, heb sôn am chwedlau. Caent eu cysgodi a'u diogelu gan gefnogwyr ac edmygwyr.
Mae tebygrwydd mawr rhwng yr hanesion am Robin Hood a'r rhai
am Dafydd ap Siencyn - byddin gudd mewn lifrai gwyrdd yn byw yn
y goedwig gan daro ac yna diflannu. Adeiladwyd ar y ddelwedd
mewn cerdd gan Tudur Penllyn wrth iddo ddisgrifio Dafydd a'i
ddilynwyr yn byw yn y goedwig gysgodol. Disgrifia Dafydd fel dyn
tal, urddasol a'i ddarlunio fel Cai y gwyrddgoed, gyda'r fforest iddo'n
gaer, y deri'n dyrau ac ef ei hun yn gyfaill i'r ceirw. Ychwanegir at
y ddelwedd wrth i'r bardd honni fod gan Ddafydd 160 o warchodwyr
ac 800 o ddilynwyr.
Darlunnir Dafydd fel 'coedwr dewr' sy'n meddu ar alluoedd
goruwchnaturiol a'i frwydr, fel un Robin Hood, yn un gyfiawn. Nid
Tudur Penllyn oedd yr unig fardd i ganu mawl i Ddafydd. Disgrifir ef
a'i ddilynwyr gan Gruffydd Leiaf fel picell neu wayw nerthol, fel
marchog euraid ar dir Grwst.
Dylid sylweddoli nad oedd y cwlt o greu arwyr o herwyr yn
gyfyngedig i Gymru nac i Brydain. Roedd yn arfer a ymledodd drwy
Ewrop gyfan a thu hwnt, gyda'r herwyr yn dod yn destunau nid yn
unig i feirdd ond i artistiaid hefyd. Roedd yr anwar nobl yn un i'w
edmygu, a gosodwyd Dafydd ap Siencyn yng nghanol y traddodiad
hwnnw.
Yn unol â thuedd yr herwr poblogaidd a lwyddodd i ennill
teyrngarwch y werin, bu farw Dafydd mewn dull arwrol. Wedi iddo
dderbyn pardwn yn 1468 fe'i penodwyd yn Gwnstabl Castell Conwy.
Dringodd i'r swydd honno wedi iddo, yn syml, ladd ei ragflaenydd.
Dywedir i Dafydd farw o ganlyniad i ffrwgwd, ac yn driw i
draddodiad eto, dywedir iddo gyfansoddi dau englyn ar ei wely
angau. Tipyn o gamp, mae'n siŵr, gan mai dim ond tri englyn a
gyfansoddodd erioed.
Lyn Ebenezer