Alwyn Parry, Wellington, New Zealand
Cyfarchion cynnes (mae hi'n braf iawn yma rwan) am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb yn Gaernarfon a'r pentrefi o gwmpas. Oddiwrth Parry Als yn flaenorol o Cwellyn, Ffordd Llanberis, bron hanner cannrif yn ôl.Eryl o Sbaen (Llandderfel, Bala, yn wreiddiol)
Rwyf yn byw ers ugain mlynedd yn Andalwsia yn Ne Sbaen, ond mae ngalon yn dal yn y Bala. Rwyf yn mwynhau yn fawr darllen yr Enfys a byddaf yn sgwennu gair gartref yng Nghymraeg.
Maldwyn Jones, Birmingham
'Rwyf yn enedigol o Dolrhedyn yn ardal Stiniog. Es i ysgol Tanygrisiau gyda fy mrodyr a chwiorydd, Ceri, Gareth, Evelyn, Gwenda a Delwyn. Symydwyd y teulu i'r Rhondda yn 1953. Rwyf yn weinidog efo Eglwys y Pentecostoliaid yn Birmingham. Mi fyswn yn falch o glywed oddiwrth pobol sydd yn byw yn y Blaenau, yn enwedig o ardal Tanygrisiau a Dolrhedyn. Byswn hefyd yn hoffi clywed sôn o hanes Moelwyn Hughes yr emynydd.
Anfonwch ateb at Maldwyn o'r dudalen yma
Mirna Jones ac Armando Ferreira o Batagonia
Anfonwn ein cyfarchion atoch, gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi a'ch ceraint. Cofion, Mirna Jones ac Armando Ferreira.
Elin Haf, Llundain
Oes na rywyn all helpu? Mae fy rhieni yn hoff iawn o Tony ac Aloma, ag yn sôn yn aml am fynd i aros i'w hotel yn Blackpool - ond fedrai ffindio dim amadano? Oes na un yn bodoli?
Fedrwch chi helpu?
Dafydd Jones, Llundain (Llanbedrog yn wreiddiol)
Safle fendigedig!! Llawn o wybodaeth pwrpasol a straeon digri. Roedd o'n ddiddorol iawn i ddarllen am hanes yr ardal lle ges i fy magu ac i ddarllen sylwadau yr ymwelwyr eraill; rhai ohonynt yn dod o bellffordd felly mae'n braf iawn i'ch gweld yn cadw y llinellau ar agor. Yn dod o Llyn yn wreiddiol, symudais lawr i ochor Llundain ers ryw flwyddyn neu ddwy felly fedrai ddallt yr angen i gadw llinellau dyn hefo'r mam iaith. Marcia llawn am pwrpasrwydd yn seiliedig ar safbwynt hanesyddol.
Awen Griffiths, Adelaide, Awstralia
Wedi cael hyd i'r safle fendigedig yma heddiw. Wedi bod yn byw yma yn Adelaide ers 10 mlynedd bellach ac yn mwynhau derbyn fy mhapur bro sef y Ffynnon yn fisol. Gwefan wych. Diolch yn fawr. (Yn wreiddiol o Benmorfa ger Porthmadog).
Papurau Bro
Helen Jones
Diddorol oedd darllen hanes John Roberts, y sant o Drawsfynydd gan i fodryb fy ngŵr honni fod ganddi gysylltiad teuluol â fo. Wedi i mi ymddeol efallai y caf gyfle i geisio olrhain hanes y teulu i geisio darganfod y cysylltiad!
Y Sant John Roberts
John Proctor, Burnley, Swydd Gaerhirfryn
Hello pob Cymro yn y byd. Dwi'n Cymraeg ond dwi'n byw yn Burnley, Lancashire a dwi just eisio gwybod os neith rhiwin anfon rhiwbeth i fi helpu i wilio am tŷ newydd. Diolch yn fawr, Philip John Proctor.
Idris Hghes, Comox, British Columbia, Canada
Fedrwch chi ddweud wrtha'i os gwelwch yn dda os ydi Mill Cottage yn Llansadwrn yn dal i sefyll? Hyn ar ran ffrind imi. Diolch.
Atebwch gwestiwn Idris Hughes.
Glyn Pritchard, Amman, Jordan.
Tipyn o air bach sydyn oddiwrth 'hen Gofi' sydd yn nawr yn gweithio yn Amman, Iorddonen. Wedi gadael Caernarfon ers rhai blynyddoedd ac mae fy nghartref ar Ynys Môn. 'Rwyf yn awr yn gweithio yn Amman ers Rhagfyr 2003. Fy ngwaith ydy dysgu recriwts o'r Iraq sydd newydd ymuno â'r Heddlu yno. Gwaith diddorol, a rwyf yn gobeithio sydd yn mynd i helpu y wlad yn yr amser i ddod. Braf yw medru darllen y Papur Dre ar y we, a 'rwyf yn diolch i bawb am eu cyfraniad.
Papurau Bro .