Postmon ym Mangor yw Kevin Thomas o ddydd i ddydd; fo sy'n dod â'r post i ganolfan BBC Cymru ym Mangor bob dydd. Ac yntau yn aelod o'r TAs fe'i galwyd i Irac ar ddechrau'r rhyfel a bu yno hyd at fis Hydref.
Mae'n dad i ddau fab pedair a saith oed, felly roedd gadael ei deulu yn mynd i fod yn anodd, ond roedd yn derbyn ei fod yna am reswm, sef gyrru lorïau trymion gydag offer a milwyr o gwmpas Basra. Ond roedd yn brofiad caled, meddai.
"Welish i lot," meddai. "Nes i weld tair roadside bomb ar fy nghonfoi i, reit wrth fy ymyl i. Mae o'n digwydd mor fast ti ddim yn cael munud i feddwl amdano fo."
Ond un profiad a gafodd argraff ddofn arno oedd marwolaeth cyd filwr, Cymro ifanc o'r gogledd.
"Dyna'r peth gwaetha 'nes i weld yn fy mywyd erioed. A dwi'n ei weld o rŵan. Ei roi o ar gefn yr aeroplane yna a'r drws yn cau ar ei ôl o. Undeg naw oedd y creadur bach ac wedi cael ei yrru adre mewn bocs. A phwy oedd yn disgwyl amdano fo 'rochor arall? Ei wraig a'i blant? Ei fam a'i dad o?
"Mae o wedi effeithio lot arna i ar ôl dod nôl adra. Dwi ddim yn gallu delio hefo crowds ar y funud. Fatha cerdded i lawr Stryd Bangor fel postman, dwi'n sbïo y tu ôl i fi, i fyny, i'r chwith ac i'r dde bob tro. Yn y tŷ dwi'n methu eistedd i lawr am bum munud, dwi fyny a lawr. Mae'n anodd ffitio nôl i society. Achos bo fi 'di rhedeg ar hundred miles an hour yn Iraq.
"Dwi'n dal i redeg ar 50 neu 60. Dwi yn falch bo fi wedi bod yna a 'di neud o a wedi dod adra' yn un pishyn. Dwi isho jyst anghofio amdano fo rwan."
O Dregarth y daw Jonah Morris Williams. Fe fu ei bartner Catrin Owen a'i dad Dyfrig Williams yn sôn am y profiad o ddelio gyda bywyd o bryder tra roedd allan yn Irac.
"'Dach chi ddim yn gallu dweud wrth neb," meddai ei dad, Dyfrig. "'Di o ddim yn fath o boen fel dy fraich yn brifo. Mae fatha rhywbeth yn eich stumog chi, fatha'r ddannodd."
"Pan oni yna ar ddechrau'r rhyfel, toedd o ddim yn teimlo'n iawn," meddai Jonah ei hun.
"Oeddan ni yn cwffio nhw ar y dydd Llun ac oeddan ni yn rhoi bwyd iddyn nhw ar y dydd Iau. Oedd hi mor sydyn a hynna. Oedd pobl isho helpu ond oeddan nhw ofn, jyst rhag ofn i Saddam ddod yn ôl."
"Dwi di bod yn cadw'n bositif trwy fynd at ei dad o," meddai Catrin. "Mae o'n cadw fi'n gryf, mae'i dad o wedi bod yn andros o gefn."
Bu Kevin Thomas, Jonah Morris Williams, ei bartner Catrin a'i dad Dyfrig, ynghyd â Jeff Molton o Aberystwyth, yn siarad am eu profiadau gyda Iolo ap Dafydd yn y rhaglen Profiadau Irac ar ddydd Sul, 20 Mawrth am 10.15am ar BBC Radio Cymru.