Ym mlwyddyn naw, roedd yn rhaid i ni wneud prosiect yn y gwersi Hanes am yr Ail Ryfel Byd, felly penderfynais ei wneud am fy nhaid, a oedd yn garcharor rhyfel. Mae fy nhaid wedi marw ers rhai blynyddoedd ond roedd gan fy nhad lot o'i hanes a lluniau a dogfennau o'r cyfnod. Doedden ni heb wneud dim am garcharorion rhyfel yn yr ysgol ond ar ôl dysgu am taid, roeddwn eisiau gwybod mwy, fel sut brofiad oedd y daith o Dunkirk, lle cafodd ei ddal, i Stalag 8b, lle gafodd ei garcharu? Yn ystod y pum mlynedd roedd fy nhaid yn garcharor rhyfel, roedd o wedi dianc dair gwaith, ond dim ond un waith yn llwyddianus. Does neb yn gwybod beth ddigwyddodd iddo y troeon nad oedd yn llwyddianus gan nad oedd o'n siarad fawr am yr adeg honno o'i hanes. Gan nad oedd fy nhaid wedi siarad lot am ei brofiadau, roedd yn rhaid i mi chwilio am lot o bethau ar y we - ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i lawer o ffeithiau ar y we am Stalag 8b felly dyna pam y penderfynais i greu gwefan fy hun. Y bwriad ydy rhannu'r wybodaeth dwi wedi ei darganfod, ond hefyd i weld os alla i ddarganfod mwy am brofiadau fy nhaid. Bydd yn ddiddorol iawn ffeindio rhai o'i ffrindiau a oedd hefyd yn garcharorion. Er mai dim ond am ychydig fisoedd mae'r wefan Gymraeg wedi bod i fyny, a'r un Saesneg am chydig llai, dwi wedi cael lot o ddiddordeb ynddyn nhw yn barod. Mi wnes i ddefnyddio CD-rom i ddysgu fy hyn sut i greu'r wefan. Doedd creu gwefan ddim yn rhy anodd, ond mae'n anoddach ffeindio rhywun i'w 'hostio' fo - mae'n bwysig cael yr un cywir, a'r un sy'n costio'r lleiaf! Mae mab rhywun oedd yn yr un gwersyll â fy nhaid wedi fy e-bostio yn barod ac roedd yn ddiddorol iawn clywed ganddo. Mae fy nhad yn meddwl ei fod yn syniad gwych. Roedd wedi clywed lot o straeon ond bydd yn dda gallu rhoi'r darnau o'r jigso i gyd efo'i gilydd. Cliciwch yma i ddarllen stori taid Rebecca, John Jeffers.
 |