| Dydy o ddim yn gallu cerdded na defnyddio'i ddwylo ond mae wedi dewis brwydro yn erbyn ei anafiadau a byw bywyd i'r eithaf, gan gynnwys cymryd y cyfle i roi tro ar awyr blymio a sgïo. Bu'n dweud ei stori wrth BBC Cymru yn y gyfres, O Flaen Dy Lygaid. "Dwi'n cofio meddwl tra ro'n i'n gorwedd ar ochr lôn, funudau ar ôl y ddamwain, 'be' uffar dwi wedi ei 'neud?' Ro'n i'n gwybod bo' fi 'di gwneud rhywbeth go siriys. "Yr unig ffordd o drio dychmygu'r peth ydi bo' ti'n gorwedd yn dy wely wedi clymu dy draed hefo'i gilydd a chlymu dy ddwylo tu ôl dy gefn a thrïo byw am ddiwrnod cyfan felly - mae'n ddiawledig o beth. "Mi gymerais i benderfyniad ar y pryd ynglŷn â be' ro'n i'n mynd i'w wneud. Naill ai gyrlio i fyny a rhoi'r gorau i bethau neu aros i weld beth fyddai'n digwydd a thrïo dod drosti. Dewisais i'r ail opsiwn.
"Mae pob sgrap o annibyniaeth yn werth ei gael. "Dwi 'di bod bron â thorri 'mol isho mynd 'nôl i bysgota a taswn i'n gallu gafael mewn gwialen bysgota fy hun, mi fyddai hynny'n grêt. Dwi'n benderfynol o wneud hynny. "O'n i'n benderfynol o fynd 'nôl i'r gwaith (yn ffatri Dynamex ger Caernarfon). "Mae gen i broblemau, oes, ond dwi ddim yn sâl chwaith. Pan o'n i yn yr ysbyty ro'n i'n breuddwydio bob nos bo' fi'n mynd i 'ngwaith, a baswn i'n gwneud shifft gyfan yn fy nghwsg. "Dwi'n cydnabod na cherdda i byth eto. Dwi'm yn gweld llawer o bwynt i rywun jyst byw mewn gobaith. Gobeithio y bydd yr arbenigwyr yn gallu sortio pethau fel hyn allan yn y dyfodol. Ond dwi wedi derbyn y ffaith na wnawn nhw yn ystod y'n oes i. Mi setla i hefo be sydd gen i a gwneud yn fawr ohoni. "Ond, dwi wedi bod yn un sy'n cymryd ambell i risg bob hyn a hyn trwy 'mywyd. Ac alla i ddim gwneud mwy o lanast na dwi wedi 'neud yn barod!"
 |