"Dwi wedi cymryd diddordeb mewn garddio erioed. Hyd yn oed cyn dechrau'r ysgol dwi'n cofio mynd i helpu cymydog i ni yn yr ardd. Mi fyddwn i'n cael y 'job' hynod bwysig o olchi potiau yn y sied cyn mynd ati i blannu hadau marigolds.
"Roedd pawb yn cael mynd i'r sied i weld y planhigion yn tyfu ond dim ond ychydig o bobl oedd yn cael caniatâd i fynd i mewn i'r ardd ei hun. Ro'n i'n un o'r rheiny ac roeddwn wrth fy modd yn gweld yr hadau'n tyfu. Mae gweld hedyn yn dechrau blaguro'n dal i greu rhyw fath o wefr ynddo i hyd heddiw.
"Mae mam hefyd wedi bod yn ddylanwad mawr arna i ac er mor brysur ydi hi'n ffermio, mae hi bob amser wedi gwneud amser i dendio ei phlanhigion.

"Dwi'n cofio gwylio Mr Smith a Percy Thrower ar y teledu'n rheolaidd ac wrth gwrs y brenin ei hun, Geoff Hamilton. Ef sydd wedi fy ysbrydoli yn bennaf ac wedi fy llenwi â hyder i ymgymryd â phob math o brosiectau. Er ei fod mor wybodus a dawnus roedd y gallu ganddo i sicrhau bod pob elfen o fyd garddio o fewn cyrraedd pob un ohonom ni.Da ni'n byw mewn bwthyn â gardd o ryw dri chwarter acer ac uffern ar y ddaear byddai byw mewn tŷ heb ardd.
"Ar hyn o bryd rydym yn ceisio gwneud estyniad i'r t a rhaid codi'r ardd i gyd mwy neu lai er mwyn gwneud hynny. Mae'n rhaid i mi gyfadde', dydw i ddim wedi rhuthro 'mlaen hefo'r gwaith adeiladu er mwyn i mi gael gweld yr ardd ar ei gorau un tro arall cyn dechrau'r gwaith digalon o chwalu a malu!
"Ond mae byw ar diroedd uchel yn creu problemau i fi. Dwi'n meddwl bod malwod y wlad i gyd yn dod acw i 'Costa del Dinorwig' ar eu gwyliau!
"Ond problem fwya'r ardd yw'r lleoliad. Mae mor uchel, mae'n agored i bob tywydd a does 'na ddim dyfnder yn y pridd gan fod yr ardd ynghanol ardal y chwareli. Does gen i ddim tŷ gwydr 'chwaith i gysgodi'r planhigion o'r gwynt, glaw a'r oerfel felly mae tyfu blodau'n gallu bod yn dipyn o her.
"Blodau, coed a llwyni sydd yn fy ngardd i gan fwyaf; dwi ddim yn cymryd cymaint o ddiddordeb mewn llysiau er y bydda i'n tyfu rhywfaint o berlysiau. Dwi'n hoff o'r holl erddi trofannol sy'n ffasiynol ar hyn o bryd ond bydd angen newid y tywydd go arw cyn y byddaf yn medru creu un yn fy ngardd i.
"Yn ogystal â garddio, dwi hefyd yn hoff iawn o drefnu blodau. Pan fyddai'n gweld planhigion, byddaf bob tro'n ystyried eu rhinweddau ac yn meddwl sut y byddent yn edrych ar y bwrdd.
Mae'r gollen gam yn ddefnyddiol iawn gyda'i brigau crintachlyd a buaswn wrth fy modd petai dim dail yn tyfu ar y goeden o gwbwl! Wrth gwrs, mae'n frwydr barhaol rhyngof i a'r malwod am ddail yr hostas!
"Mae'r synhwyrau hefyd yn bwysig i mi; dwi'n dueddol o ddewis planhigion ag arogl da iddynt, ac o ran lliwiau mae'n debyg mai pinc, porffor a glas yw fy ffefrynnau. Er hynny, mae yna apêl tuag at felyn a chlaret hefyd. Mae lliw llachar melyn y gors neu'r marsh marigold wedi bod yn fagned i mi ers fy mhlentyndod a dwi'n cofio syrthio i ganol mwy nag un gors wrth geisio casglu'r trysor melyn oedd mor hudol i mi!
"Dwi'n hoff iawn o'r gwanwyn gyda phob diwrnod yn amlygu rhyw drysor bach newydd."Dwi wrth fy modd gyda'r wahanol fathau o wyrddni sydd ar gael a'r olwg ffres sydd ar bob dim - yr egni a'r cyffro o wybod bod tymor pleserus o arddio yn byrlymu unwaith eto."