Pryd wnaethoch chi ddechrau cystadlu? 1972. Ym mha faes ydych chi'n arbenigo? Dwi'n bridio Defaid Llŷn a Defaid Texel. Beth ydy uchafbwynt eich cystadlu hyd yma? Dwi wedi ennill pencampwriaethau yn y Royal Show, y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd a Sioe Stoneleigh gyda'r Defaid Texel. Dwi wedi ennill nifer o weithiau yn Sioe Llŷn hefyd. Oes unrhyw bethau wedi mynd o'i le erioed? Digon o weithiau! Unwaith, mi wnaeth dafad neidio'r giât a brifo'i choes - roedd hi wedyn yn cario'i choes wrth gerdded ac felly roedd rhaid i mi ddefnyddio dafad arall. Mae'n bwysig cadw un yn sbâr! Dwi wedi cael trafferth weithiau hefyd pan fydd dafad wedi torri'i chalon. Dydyn nhw ddim yn hoffi trafaelio ryw lawer a fel arfer rydyn ni'n ceisio cyrraedd y gystadleuaeth y diwrnod cynt. Un diwrnod, roedden ni wedi cystadlu mewn sioe y diwrnod cynt ac felly roedd rhaid gyrru i'r sioe arall yr un bore â'r sioe. Ond roedd clustiau'r ddafad ar i lawr wrth gael ei dangos o flaen y beirniaid. Fyddech chi'n argymell eraill i gymryd rhan? Mae'n ddiddordeb sydd wedi dod yn fywoliaeth i mi. Mae'n bwysig cael diddordeb yn y gwaith gan fod ffermio'n gallu bod mor gaeth. Beth ydy'r peth gorau am Sioe Nefyn? Dyma'r sioe sy'n cychwyn y tymor, felly mae pawb yn gweld eu gilydd am y tro gyntaf ac yn cael sgwrs ac yn cymdeithasu.
 |