Pryd wnaethoch chi ddechrau cystadlu? Flynyddoedd lawer yn ol! Tua ugain mlynedd yn ôl dwi'n meddwl. Ym mha faes ydych chi'n arbenigo? Defaid Torddu a Thorwen - yr hen ddefaid oedd yn crwydro mynyddoedd Cymru flynyddoedd maith yn ôl. Mae 'na stribed ddu o ên i gynffon y ddafad Torddu, ond pan oedd gofyn am wlân pur, gwyn, roedd rhaid altro'r Torddu trwy fridio i gael y Torwen. Mae'n dipyn o job cael Dafad Torddu da i ddangos - yn aml iawn, mae gan y stribed ddu wyn ynddo fo yn rhywle. Beth ydy uchafbwynt eich cystadlu hyd yma? Dwi wedi ennill efo'r Torddu sawl gwaith, gan gynnwys yn Sioe Gogledd Cymru.  Oes unrhyw bethau wedi mynd o'i le erioed? Ambell i dro, mae dafad wedi mynd yn gloff dros nos cyn y gystadleuaeth, ond dim byd arall o bwys a dweud y gwir. Fyddech chi'n argymell eraill i gymryd rhan mewn sioe? Argian mawr, byswn! Dydy'r Torddu ddim yn frîd poblogaidd iawn gan ei fod yn un mor hen, felly mae'n bwysig bod pobl yn eu bridio ar gyfer y sioeau. Mae 'na griw bach yn codi yng ngogledd Cymru sy'n bridio'r Torddu, yn enwedig pobl sydd â thyddyn bach a ryw ugain acer ac sydd am fridio defaid sydd 'chydig yn wahanol. Beth ydy'r peth gorau am y sioe? Mae Sioe Eglwysbach yn enwog am fod yn un cyfeillgar dros ogledd Cymru, ac mae'n boblogaidd iawn.
 |