Pryd wnaethoch chi ddechrau cystadlu? Dwi wedi bod yn cystadlu yn Sioe Caernarfon ers i mi gofio, ers pan oeddwn i'n ferch ifanc iawn. Ym mha faes ydych chi'n arbenigo? Cobiau Cymreig. Dwi'n cymryd rhan yn y dosbarthiadau dangos ac yn cystadlu yn y marchogaeth gyrru. Beth ydy uchafbwynt eich cystadlu hyd yma? Dwi wedi ennill y brif bencampwriaeth lawer o weithiau. Dwi wastad yn lwcus i ddod adref wedi cyrraedd y pump uchaf wrth gystadlu, a dwi wedi ennill yn Llanelwedd a thros ogledd Cymru. Oes unrhyw beth wedi mynd o'i le erioed? Mae'n dipyn o waith cael y ceffylau'n barod i fynd i'r sioe. Rhaid cychwyn y paratoi wythnosau ynghynt. Rhaid gwneud yn siŵr fod y trefniadau yn eu lle i gyrraedd y sioe mewn digon o bryd. Mi ges i drafferthion gydag un o'r merlod un tro. Roedd y sioe ar ein tir ni, ac roedd hi felly'n cau'n glir â mynd i mewn i'r lori at stabl wahanol gan ei bod hi'n adnabod y lle mor dda ac am fynd i'w stabl arferol! Fyddech chi'n argymell eraill i gymryd rhan? Byswn. Dwi'n cofio'r amser pan roedd hi'n hawdd mynd i sioe leol ac ennill, ond erbyn hyn mae 'na lawer mwy o bobl yn cystadlu a rhaid gweithio'n galed i wneud yn dda y dyddiau yma. Rhaid hefyd gwneud lot o waith 'schoolio' efo'r ceffylau fisoedd 'mlaen llaw i sicrhau y byddan nhw ar eu gorau erbyn y sioeau. Beth yw'r peth gorau am y sioe? Er nad ydy'r sioe yn ddiwrnod i ymlacio imi gan fy mod i mor brysur, mae'n ddiwrnod i gyfarfod pobl a gwneud ffrindiau. Mae hefyd yn ffordd dda i hysbysebu'r ceffylau a gwerthu ambell un.
 |