Pryd wnaethoch chi ddechrau cystadlu? Tua deng mlynedd yn ôl dwi'n meddwl. Ym mha faes ydych chi'n arbenigo? Rydyn ni'n ffermio dipyn o bob dim, ond moch gwynion pur 'da ni'n eu dangos yn Sioe Môn. Rydyn ni hefyd yn dangos moch du a gwyn - y 'Sadleback'. Beth ydy uchafbwynt eich cystadlu hyd yma? Ennill y pencampwriaeth moch y llynedd. Oes unrhyw beth wedi mynd o'i le erioed? Mae hi wedi bod yn reit dda a dweud y gwir. Mae moch yn anifeiliaid digon tawel, a mae pawb sy'n cystadlu yn helpu ei gilydd. Fyddech chi'n argymell eraill i gymryd rhan? Mi faswn i'n argymell rywun i gymryd rhan i gadw ochr amaethyddol y sioe yn fyw ac yn iach. Beth ydy'r peth gorau am y sioe? Dwi wrth fy modd yn gweld yr anifeiliaid i gyd. Dwi'n teimlo mewn ffordd bod rhywbeth i bawb yn Sioe Môn - does dim ots beth ydych chi'n ei wneud, yn amaethyddol neu beidio, mae digon at ddant pawb. Mae Sioe Môn yn cael ei chynnal am ddeuddydd ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, 10 ac 11 Awst. Cliciwch yma am restr lawn o sioeau'r ardal.
 |