| "Roedd hi'n boeth iawn yn sioe Eglwysbach. Hogle chips, donuts, tail a gwair oedd ar y maes. "Roedd y ceffylau gwedd yn ysblennydd heb sôn am y ceffylau hela, ebolion, defaid, ŵyn llywaeth, gwartheg a theirw. Roedd lleoliad y maes yn hyfryd iawn ac yn wledig.
"Gan fod pob llygad yn y byd ar y Gemau Olympaidd fe gynhaliwyd gemau bach Cymreig 'tynnu rhaff'. "Pump tîm oedd yn y gystadleuaeth. Y timoedd hyn oedd y "Duwiau Rhywiol", "Vaughan's Marauders", "Topham Terrors", "President's Six" a "Wern Wanderers". "Roedd arweinwyr y timau yn gweiddi pethau fel: "Tynnwch, y diawliaid, neu byddwch chi mewn uffern o drafferth wedyn!" A dywedodd y sylwebydd "Mae hyn fel y Gemau Olympaidd ond heb y steroids!" "Cafodd pawb laff wrth wylio'r gystadleuaeth honno. "Roedd yno ffair ar y maes, a oedd yn dal tua saith reid oedd yn ddwy bunt y tro. "Roedd yno lawer o stondinau hwyl a rhai diddorol iawn. "Roedd yno rai stondinau lle gall plant ifanc liwio a tynnu lluniau o bob math yn y byd. Roedd yno lawer digon o lefydd i gael bwyd o bob math, e.e. te, brechdanau, cacen a sgwash.
"Roedd yna blant yn cystadlu yn y cystadlaethau'r 'young handlers' a wyn llywaeth. "Yr uchafbwynt fydde wedi bod y ffair i mi os bydden ni wedi gallu fforddio fo. "Y peth rydw i yn ei gofio orau oedd y tynnu rhaff."
 |