BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bryn Fôn yn derbyn y wobrMawredd Mawr
Cafodd Bryn Fôn noson fawr yn nathliad BBC Radio Cymru ym Mangor ar nos Iau, 18 Tachwedd, wrth i bedair o'i ganeuon gyrraedd deg uchaf siart Mawredd Mawr 2004.
A datgelwyd hefyd mai hoff gân y genedl eleni yw Ceidwad y Goleudy, cân sy'n cael ei pherfformio gan Bryn Fôn a'i Fand.

  • Lluniau o'r noson

    Cafodd y noson ei chynnal yn yr Octagon ym Mangor a chafodd y 50 cân a gyrhaeddodd y brig eu datgelu ar y noson a gyflwynwyd gan Dafydd Du, Lisa Gwilym, Dylan Wyn ac Owain Gwilym.

    Anweledig yn perfformio yn noson Mawredd MawrBu gwrandawyr Radio Cymru yn pleidleisio ers wythnosau dros eu hoff ganeuon, a'r rhai gyrhaeddodd y deg uchaf oedd:

    1 Bryn Fôn, Ceidwad y Goleudy
    2 Elin Fflur, Harbwr Diogel
    3 Maharishi, Tŷ ar y Mynydd
    4 Dafydd Iwan, Yma o Hyd
    5 Bryn Fôn, Bardd o Montreal.
    6 Bryn Fôn, Rebal Wicend
    7 Bryn Fôn, Un funud fach
    8 Meinir Gwilym, Wyt ti'n gêm?
    9 Frizbee, Ti
    10 Anweledig, Ticitembo

    Darllenwch y stori newyddion.


  • Cyfrannwch

    Eluned Glyn o Fachynlleth
    Roeddwn i'n disgwyl i Bryn Fon fod yn rhif un. Mae o'n amazing!!!

    Erica Jones o Gaernarfon
    Noson wych! Roedd y bandiau i gyd yn dda, yn ENWEDIG Bryn Fon a'r Band. Lleoliad cyfleus iawn, a phawb yno yn Gymry yn mwynhau eu hunain a bonws fod y ticedi i fynd yno ar y noson yn rhad ac am ddim.

    Prysor o JMJ a Pandy Tudur
    Cracar o noson, eto 'leni. Diolch yn fawr Radio Cymru

    Sam o Ysbyty Ifan
    Noson Byth gofiadwy!! Cerddoriaeth gwych, cwrw bendigedig, awyrgylch ffantastig - a fi yn cael bod ar 'Bandit' yn gwneud total ffwl o fy hyn! O wel! Noson da iawn - rol on blwyddyn nesa!

    Carwyn Rhys o Bontnewydd
    Be di pwynt y noson yma? Er mwyn clodfori ma mor wan ydi cerddoriaeth "poblogaidd" Cymraeg, gan fod Hen Ganeuon ar y brig pob blwyddyn. Pa obaith sydd gan y swm bychain o fands talentog Cymru i lwyddo, gan fod y cyfryngau yn benderfynol o dynnu pob gronyn allan o yrfaoedd pobol fel Bryn Fon a Dafydd Iwan. Adlewyrchiad gwael ar ddyfodol cerddoriaeth o'r math.

    John Elfed Hughes o Maenan
    Cefais i noson arbennig o dda. Diolch i Radio Cymru am y noson wych. Roedd y lle efo tua 800 o bobl a roedd o'n arbennig o dda i weld gymaint mewn un lle yn siarad yr iaith Gymreag. Arbennig o dda!


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy