BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gethin ag Aneurin o'r Genod DroogGenod Droog
Dyma Gethin o Kentucky AFC ac Aneurin o'r Diwygiad i gyflwyno 'super group' y gogledd orllewin (a rhannau o'r de!), Genod Droog, mewn cyfweliad yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

Aneurin: Fe fuaswn i ac Ed yn ennill mewn rap off yn erbyn y GLC - 'da ni'n gallu free steilio mewn pedwar iaith!
News imageDyma Aneurin i brofi ei honiad ...

Pwy yn union sydd yn y Genod Droog?
Gethin:
Mae'n gymysgedd o aelodau o grwpiau eraill - fi, Aneurin o'r Diwygiad a Dyl ag Ed o Pep le Pew.

Mae'n gyfle i wneud rhywbeth gwahanol yn gerddorol.

Aneurin: A chyfle i gael cynnwrf set fyw gyda phobl newydd.

Ddaru ni berfformio am y tro gyntaf efo'n gilydd yn y Railway Club ym Mangor yn Nhachwedd 2005. Roedd 'na concerted effort wedyn i gael Geth ac eraill i drefnu Taith Tew dros Gymru i gyd, gan gychwyn yn y gogledd. Ers hynny rydym wedi bod yn chwarae gwyliau a gigiau man hyn a fan draw.

Sut mae'r Genod Droog yn mynd ati i greu caneuon?
Gethin:
Mae 'na lot fwy o'r ochr stiwdio efo Genod Droog - mae'r broses yn hollol wahanol i be dwi wedi arfer ag o. Efo Kentucky AFC mae'r tri ohonom yn dod at ein gilydd, mi fydd Endaf a Huw wedi dod â syniad am gân, a mi rydyn ni'n ei greu fel 'na. Ond efo'r Genod Droog, 'da ni'n chwilio am samplau i gychwyn cân - pawb yn eistedd o flaen cyfrifiadur yn defnyddio eu dawn gerddorol i adeiladu ar hynny.

Genod Droog ar y llwyfan Aneurin:: Mae ei gael ar gyfrifiadur fel 'na fel blank canvas, cyfle i bawb ddod â'i gefndir, syniadau a dylanwadau gwahanol i mewn i'r peth.

Gethin: Mi wnawn ni recordio'r gân yn ei chyfanrwydd, wedyn er mwyn gallu ei chwarae yn fyw, mi fyddwn ni'n dynnu'r dryms, y gitâr, y bâs a'r llais allan a roi beth sydd ar ôl ar sampler a chwarae efo'r sampler ar y llwyfan.

O ble daeth yr enw?
Gethin:
Dyl ac Ed (o Pep Le Pew) feddyliodd am yr enw. Maen nhw'n obsessed efo Jim Fenner, cymeriad o'r rhaglen Bad Girls. Felly mae'n bosib mai cyfieithiad o Bad Girls yw Genod Droog, er nad ydan ni'n cyfaddef hynny fel arfer!

Aneurin: Ond mae rhai yn y de yn ein galw ni'n Merched Droog neu Genod Brwnt! Y syniad gwreiddiol oedd Genod Paranoid neu Gwm Tatws!

Sut brofiad yw bod mewn gŵyl fel y Sesiwn Fawr gyda band arall?
Gethin:
Mae'n braf bod yma efo band arall, mae'n gyfle gwych i ni. Mae chwarae mewn llefydd bach dros Gymru yn gallu bod yn dorcalonnus weithiau, gyda'r sain ddim mor dda a ballu. Ond yma, efo system mor dda, mae'n bosib canolbwyntio ar y perfformio yn lle poeni am bopeth arall.

Beth all y gynulleidfa ei ddisgwyl mewn gig Genod Droog?
Gethin:
: 'Da ni'n gwneud un gân sy'n freestyle - 'da ni'n gofyn i'r gynulleidfa am dri gair a 'da ni - wel, dim fi, dwi'n chwarae'r dryms! - ond mae Ed ac Aneurin yn gorfod rhoi'r geiriau yna yn y gân. Mae o'n gweithio'n dda.

Aneurin: Mae cofio geiriau wrth rapio yn gallu bod yn anodd - mae'n rhaid iddyn nhw ddod yn lot cyflymach 'na phan mae rhywun yn canu. Mae'n rhaid i chi gofio'r patrymau a'r rhythmau odli a'u rhoi at ei gilydd fel jig-so.

Gethin: Dwi'n recno fod gan Aneurin tua ugain o core odlau rap!

Aneurin: Wel, os ti'n ei wneud yn aml ti'n gwybod beth sy'n mynd efo'i gilydd.

Beth yw'r dyfodol i'r Genod Droog?
Aneurin:
Lle mae Genod Droog am fynd - Mawrth neu Jiwpiter? Wel, 'da ni am fynd i weithio i stiwdio mewn coedwig yn Ffrainc.

Gethin: Ia, fel rehab! Fel stiwdio Rockfield ond yn boethach ac ymhellach o gartref.

'Da ni erioed wedi bod efo'n gilydd am gyfnod mor hir o amser felly dwi'n siŵr y byddwn ni'n ffraeo dros Bot Noodle neu rywbeth erbyn y diwedd!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy