Beth ydy gwreiddiau cerddoriaeth Cajun?
Owen: Mae gwreiddiau Cajun yn mynd yn ôl tua 400 mlynedd pan wnaeth pobl o ardal Celtaidd Ffrainc ddianc i'r ardal yng Nghanada sy'n cael ei alw yn Nova Scotia erbyn hyn. Ar ôl byw yno am ryw 150 o flynyddoedd, fe aeth yn rhyfel rhwng Ffrainc a Lloegr gyda'r Saeson eisiau i bobl yr ardal arwyddo cytundeb yn dweud nad oeddent am gefnogi Ffrainc. Ond mi wnaethon nhw wrthod cymryd ochr yn y rhyfel, ac o achos hynny, mi gawsant eu taflu allan ac mi aeth lot ohonyn ymgartrefu yn Louisiana gan fod 'na gysylltiadau efo Ffrainc yno, er bod lot wedi marw ar y ffordd. Felly dros 200 mlynedd yn ôl, mi wnaethon nhw ddechrau eu diwylliant eu hunain, ac mae lot yn yr ardal yna o America yn siarad Ffrangeg Cajun, sydd yn wahanol i'r Ffrangeg roeddent yn ei siarad yn wreiddiol.
Mae ganddynt ei diwylliant eu hunain, eu hiaith eu hunain a'u bwyd eu hunain.
Yn wreiddiol, cerddoriaeth ffidil i ddawnsio iddo oedd Cajun. Mi fydden nhw'n chwarae yn eu tai gyda'r nos gyda chymdogion - cerddoriaeth werin oedd o.
Yna tua 100 mlynedd yn ôl daeth yr acordion drosodd o'r Almaen, ac mae pethau eraill wedi cael eu adio dros y blynyddoedd, fel y gitâr. Mae'r gerddoriaeth offerynnol wedi troi yn ganeuon wrth i bobl roi geiriau iddynt.
Ers y 50au, pan ddaeth roc a rôl, maen nhw wedi adio drymiau a gitâr fâs. Mae na spread mawr rŵan o'r traddodiadol gyda'r gitâr, yr acordion a'r ffidil i fandiau mawr sy'n defnyddio lot o elfennau roc, ond cerddoriaeth i ddawnsio iddo ydy o yn y bôn.
Sut ddaru chi ddod i wybod am gerddoriaeth Cajun?
Owen: Ddes i ar ei draws tua 20 mlynedd yn ôl. Es i draw i Louisiana yn 1986 a mynd rownd llefydd fel Lafayette, a dyna lle gafodd o afael arna'i go iawn, wrth i mi ei glywed yn cael ei chwarae'n fyw yn y bars.
Roedden ni i gyd yn chwarae mewn band efo'n gilydd, yn chwarae stwff blŵs ac R'n'B ac wedyn, yn enwedig ar ôl i Neil ymuno â'r band, ddaru ni gychwyn defnyddio mwy o'r acordion a dros y blynyddoedd mae o wedi mynd yn fwy Cajun.
Yn 1990 ddaru ni neud y gig Cajun cynta go iawn, ac wedyn ddaru ni ddechrau chwarae stwff yn Gymraeg. 'Da ni heb chwarae Cajun Cymraeg yn Lousiana eto, ond dyna beth faswn i'n hoffi ei wneud.
Sut mae'r sîn Cajun yng Nghymru?
Owen: Tua deng mlynedd yn ôl roedd y sîn yn reit fawr ym Mhrydain, gyda phobl fel Andy Kershaw yn chwarae lot ohono. Roedd 'na foi o'r enw Chris Hall o ochrau Derby yn trefnu gigs a lot o wyliau ond mae o wedi distewi ychydig rŵan.
Mae lot o'r gigs 'da ni'n eu gwneud mewn gwyliau fel y Sesiwn Fawr, partis pen-blwydd a phriodasau - pethau lle mae pobl eisiau band er mwyn dawnsio a chael amser da.
Mae 'na un neu ddau o fandiau Cajun eraill yn ne Cymru, ond yn Ffrangeg maen nhw'n canu - dwi ddim yn meddwl fod na neb arall yn chwarae Cajun yn y Gymraeg.
Ydy'r acordion yn elfen bwysig i'r sŵn?
Neil: Pan ymunais efo'r band, roeddwn i'n chwarae'r acordion piano ond mae 'na sŵn lot gwell efo un traddodiadol Cajun efo dim ond un rhes o fotymau yng nghyfeirnod 'C' - nodau gwyn y piano. Felly mae'r rhan fwyaf o gerddoriaeth Cajun yn 'C' neu 'G', ac wrth chwarae yn 'G' mae 'na flat seventh, dipyn o sŵn blŵs sy'n rhan o'r sŵn Cajun.