| Mae rhaglen Gwasanaeth Llyfrgell y Cyngor Sir yn cynnwys: sesiynau canu ac adrodd straeon gyda'r amryddawn Mair Tomos Ifans; sioe bypedau poblogaidd Cwmni Cortyn; Yr Awr Lyfrau yng nghwmni'r awdures plant Nesta Griffith; a chyfle i ddarpar feirdd y dyfodol farddoni dan arweiniad un o lenorion mwyaf poblogaidd Cymru. Bydd Twm Morys, Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, yn tywys aelodau o Sgwad Sgwennu Ynys Môn (ynghyd ag unrhyw berson ifanc arall sydd â diddordeb) ar daith o amgylch Maes yr Eisteddfod, a'u hannog i lunio cerddi ar sail y pethau o'u cwmpas. Yn ogystal, bydd staff o Adran Cylchgronnau yr Urdd yn cynnal dwy sesiwn fydd yn egluro sut y maent yn mynd ati i gynhyrchu cyhoeddiadau fel iaw! a CIP!. Bydd yna gyfle i bobol ifanc greu deunydd eu hunain, all un diwrnod ymddangos yn un o rifynnau'r dyfodol. Mae'r Cyngor Sir hefyd wedi trefnu ambell i weithgaredd mewn partneriaeth â Phwyllgor Llenyddiaeth yr Eisteddfod ym Môn. Drwy gydol yr wythnos, bydd yna gyfle i blant a phobol ifanc greu lluniau ar sail cerddi ar gyfer yr arddangosfa Cerdd a Llun, arddangosfa fydd yn tyfu'n ddyddiol wrth i'r goreuon yn yr oedrannau cynradd ac uwchradd gael eu hychwanegu at yr oriel. Un o uchafbwyntiau ddydd Iau, Mehefin 3, wedyn, fydd Talwrn Ysgolion Uwchradd Môn am 11.00 y bore. Y llenor aml-dalentog Gwyneth Glyn fydd y Meuryn ac bydd y Parchedig Ddoctor Dafydd Wyn Wiliam yn cyflwyno'r tlws i'r buddugwyr ar ran Cymdeithas Morisiaid Môn. Bydd arddangosfa arbennig o fewn Pafiliwn y Cyngor yn amlinellu gwaith Asiantaeth Gelfyddydol Ysgolion Gwynedd a Môn sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion gydweithio ar brojectau gydag arbenigwyr celf, dawns ac ati. Bydd yr Academi Gymreig hefyd yn bresennol i sôn am ei gweithgareddau ar yr Ynys - bydd y corff llenyddol hefyd yn cynnal Ymryson brynhawn Gwener, Mehefin 4. Bydd rhaglen Cynnal hefyd yn cynnwys amryw o weithgareddau creadigol trwy'r wythnos, ac i fwydo'r dychymyg ymhellach, bydd cyfrifiaduron wedi eu cysylltu i system band eang di-wifr arobryn y Cyngor Sir, Cyswllt Môn, ar gael i ymwelwyr ifanc - a hen - eu defnyddio yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Dywedodd John Rees Thomas o'r Adran Addysg a Hamdden, "Mae'r Eisteddfod wedi bod yn gyfle gwych i gynnig blas i gynulleidfa eang o'r ystod o wasanaethau y mae'r Cyngor yn ei ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r gwasnaethau wedi bwrw ati yn frwdfrydig iawn i baratoi at yr Eistedfod - gallwn sicrhau croeso cynnes ac amser diddorol i bawb a fydd yn ymweld â ni." Mae amserlen llawn o holl weithgareddau Cyngor Sir Ynys Môn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ynys Môn 2004 yn awr ar gael. Mae safle'r Cyngor Sir wedi ei leoli gyferbyn â phrif Bafiliwn Cae Sioe Mona, ac mae'n arwain yn uniongyrchol at y Babell Celf a Chrefft. Cyngor Ynys Môn
 |