| Mae oddeutu 40,000 o bobol wedi ymweld â Warchodfa Natur Lleol Nant y Pandy yn Llangefni ers Rhagfyr 2003, pan osodwyd llwybr pren 650-medr o hyd a dwy bont newydd. Caniatawyd y datblygiadau hyn diolch i grant Cyd-Coed gwerth £140,000, yn ogystal â mynediad gyda chadair olwyn i'r warchodfa 25-erw. Gosodwyd nifer o gerfluniau pren yn y safle hefyd y llynedd ynghyd â phaneli gwybodaeth sy'n dehongli hanes ac arwyddocâd amgylcheddol yr ardal. Dengys y dystiolaeth ddiweddaraf fod yr ymgais i drawsnewid y warchodfa natur yn adnodd cymunedol pwysig i'r teulu cyfan yn llwyddo yn ei nod. Mae Gwarchodfa Natur Lleol Nant y Pandy yn eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn ac yn cael ei reoli gan ei Wasanaeth Cefn Gwlad. Nid yw'n syndod i'r Warden, Gareth Evans, fod mwy o bobol yn ymweld â Nant y Pandy, yn enwedig yr adeg hyn o'r flwyddyn. Dywedodd, "Mae rhwng canol a diwedd y gwanwyn yn gyfnod gwych i ddod i Nant y Pandy pan mae'r llethrau yn garped glas wrth i'r clychau'r gog flodeuo. Mae coed megis y dderwen, y goeden gyll, yr onnen, y gastanwydden a'r ffawydden yn blaguro ac mae'r goedlan yn llawn bwrlwm swn titwod tomos gleision a'r ji-bincod wrthi'n nythu." Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ddiweddar wedi cychwyn ar gynllun tair blynedd mewn partneriaeth gyda Chwmni Tref Llangefni i ehangu'r warchodfa ymhellach, yn sgil grant gwerth £122,000 gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd. Mae'r cynlluniau yn cynnwys ailstocio rhannau o'r safle gyda had coed cynhenid lleol a sicrhau mynediad ehangach at ddefnydd y cyhoedd. Bydd swyddog rhan-amser yn cael ei recriwtio i oruwchwylio'r project. Cyngor Ynys Môn
 |