BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Beth sy'n digwydd yn Ynys Môn?
Ydych chi erioed wedi bod eisiau gwybod beth sydd yn digwydd ar Ynys Môn, yn lle a pha bryd?
Yna, nid oes angen edrych ymhellach na'r llyfryn Be' Sy' 'Mlaen ym Môn 2004 sydd wedi ei gynhyrchu gan Uned Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn.

Mae'r llyfryn yn rhestru gwybodaeth fanwl ar amrywiaeth eang o weithgareddau sydd yn cael eu cynnal ym Môn rhwng Ebrill a Rhagfyr. Eisteddfodau lleol, hwyl ac adloniant i'r teulu yn ystod cyfnodau gwyliau, cystadlaethau hwylio, gwyliau bwyd a gwyliau cerddorol - dyma megis blas o'r hyn a restrir yn y llyfryn.

Gwahoddwyd grwpiau cymunedol a gwirfoddol, ynghyd ac unigolion ar draws Môn i gyfrannu ym mis Ionawr drwy basio manylion digwyddiadau ymlaen - pa bynnag faint yr achlysur. Bydd y llyfryn yn awr yn cael ei ddosbarthu trwy rwydwaith o sefydliadau a grwpiau ym Môn, Gogledd Cymru a thu hwnt.

Mae Arweinydd y Cyngor a'r deilydd portffolio Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Bob Parry OBE, yn meddwl bod y llyfryn yn arf pwysig o ran marchnata digwyddiadau ar yr Ynys. Dywedodd, "Mae'r llyfryn yn cynnwys yr holl wybodaeth y byddai unrhyw un ei angen, ac rwy'n siwr y bydd trigolion yr ynys, ynghyd ag ymwelwyr yn ei gael o fantais mawr."

"Elfen arall o'r cyhoeddiad sydd wedi fy mhlesio'n fawr yw gweld yn union faint o bethau sydd yn mynd ymlaen ar Ynys Môn. Mae'r llyfryn yn dystiolaeth o waith caled cynifer o bobol a grwpiau ar hyd yr ynys sydd yn gweithio mor galed pob blwyddyn er mwyn sicrhau mwynhad eraill."

Roedd Pennaeth yr Uned Datblygu Economaidd, Huw Griffiths, yn werthfawrogol iawn o bawb a gyfrannodd wybodaeth. Dywedodd, "Mae digwyddiadau o bob math yn gwneud cyfraniad pwysig i nifer o agweddau o fywyd ar Fôn pob blwyddyn, ac unwaith eto mae eu hymateb a'u gwaith caled wedi ein helpu i gynhyrchu llyfryn llawn gwybodaeth eleni."

Prifysgol Cymru, Bangor


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud â gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy