| Mae Pythefnos Maethu 2004 ymlaen o ddydd Llun, Mai 10 tan ddydd Sul, Mai 23, ymgyrch recriwtio flynyddol sy'n cael ei chydlynu hyd a lled Prydain gan yr elusen Fostering Network. Dengys ymchwil fod bron i 50,000 o blant a phobol ifanc yn byw mewn cartrefi maeth ar unrhyw adeg drwy'r Deyrnas Gyfunol. Fodd bynnag, mae angen 8,000 yn rhagor o ofalwyr maeth ar frys er mwyn darparu gofal o'r safon uchaf i fwy o blant mewn angen. Yma ym Môn, mae 57 o blant a phobol ifanc ar hyn o bryd yng nghofal 37 o ofalwyr maeth. Mae Tîm Lleoli Plant y Cyngor Sir wastad yn chwilio am bobol leol sydd mewn sefyllfa i gynnig cartref i blant a phobol ifanc am gyfnodau amrywiol, ond mae angen arbennig ar hyn o bryd am bobol sy'n fodlon maethu pobol ifanc yn eu harddegau. Oherwydd diffyg cartrefi posib ar yr Ynys ar hyn o bryd ar gyfer y rhai yn yr oedran yma, mae'n bosib y bydd yn rhaid i ambell un adael y Sir, gan eu gorfodi i droi eu cefnau ar bopeth sydd yn gyfarwydd iddynt. Eglurodd Laura Hughes, sydd yn gyfrifol am recriwtio a chadw gofalwyr maeth ar draws yr Ynys: "Yn gyffredinol, mae'r bobol sydd â diddordeb mewn maethu, sydd â theuluoedd yn barod, yn tueddu i gymryd plant sydd o'r un oedran a'u plant eu hunain. Mae'r syniad o ofalu am laslanciau, gyda'r holl angst sy'n dod yn sgil y cyfnod arbennig hwnnw, yn apelio llai. O ganlyniad, mae'n gynyddol anoddach i gael pobol i gynnig cartrefi i'r oedran yma." "Ond ddylie neb anghofio nad oes bai ar y bobol ifanc eu bod yn y sefyllfa y maent ynddi, a chyda chefnogaeth gallent oresgyn eu hamgylchiadau a mynd yn eu blaenau i fyw bywydau llwyddiannus. I'r gwrthwyneb, mae'r rhai sy'n cael eu gadael ar eu holau yn fwy tebygol o wynebu anawsterau cymdeithasol a phroffesiynol fuasai'n eu gwneud hi'n anos iddynt gael gwaith a chartrefi eu hunain yn y pendraw. Gall hyn, yn ei dro, arwain at gylch dieflig o ddiffyg gwaith, troseddu a digartrefedd." "Y gwir plaen yw nad oes cartrefi ar gael ar hyn o bryd ym Môn i rai pobol ifanc sydd angen gofal. O ganlyniad, mae'n bosib y bydd yn rhaid iddynt adael y Sir er mwyn sicrhau cartref, gan achosi rhagor o ansefydlogrwydd mewn cyfnod sydd eisoes yn ddigon anodd." "Mae'n debyg bod yna lawer o bobol ar yr Ynys sydd â'r rhinweddau angenrheidiol i wynebu'r her arbennig yma - pobol sydd heb plant adre' mwyach, falle, sydd â digon o amser, amynedd a synnwyr digrifwch. Hoffwn glywed gan bobol fel hyn." Bydd aelodau o Dîm Lleoli Plant y Cyngor Sir yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yr wythnos nesaf gyda gwybodaeth i ddarpar ofalwyr maeth. Yr wythnos ganlynol, byddent yn ymweld â siopau ac archfarchnadoedd ar draws Môn. Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael trwy gysylltu â Laura Hughes ar 01248 852772 neu drwy ymweld â'r wefan Maethu.
 |