| Mae Gang Gymunedol wedi cychwyn yn ddiweddar yng ngogledd orllewin yr Ynys gan ymgymryd â'r math o fân broblemau oedd yn arfer cael eu datrys gan fforddolwyr neu "lengthmyn" rai blynyddoedd yn ôl. Bydd eu cyfrifoldebau yn cynnwys mân waith traenio ac agor ffosydd, llenwi tyllau yn y ffyrdd a chlirio eu hymylon, trwsio a glanhau arwyddion ffyrdd a graeanu gelltydd yn ôl yr angen. Eglurodd Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir Ynys Môn, Dewi Williams: "Mae llawer o ddefnyddwyr ffyrdd y Sir wedi datgan siom dros ddiddymu'r hen drefn o ddefnyddio "lengthmyn" lleol nôl yn y 1970au, lle roedd unigolion yn gyfrifol am gynnal a chadw rhannau penodol o'r ffyrdd. "Oherwydd arferion gwaith y byd sydd ohoni bellach, byddai'n amhosib ailgyflwyno'r drefn honno fel ag yr oedd hi, ond 'rydym wedi addasu'r syniad gwreiddiol i greu'r Gang Gymunedol gyda'r gobaith o ddarparu gwasanaeth lleol sy'n ymateb yn fwy effeithiol i ofynion lleol." "Mae'r cynllun yn bartneriaeth rhwng y Cyngor Sir, cwmni JDM Accord a'r cynghorau cymuned. Bydd cynrychiolwyr o'r gymuned yn cysylltu'n rheolaidd â'r Arolygwyr Ffyrdd er mwyn tynnu sylw at fannau lle mae angen gweithredu. Y gobaith yw y bydd y Gang Gymunedol yn gallu ymateb yn gyflym i'r galwadau hyn gan gwblhau'r gwaith o fewn diwrnod." Bydd gangiau eraill y Cyngor yn parhau i ddelio â gwaith o natur mwy sylweddol sy'n cynnwys peiriannau mwy a chostau uwch. Bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal am flwyddyn yn ardaloedd Cynghorau Cymuned Llanfachraeth, Llanfaethlu, Cylch y Garn, Tref Alaw a Mechell, a bydd swyddogion o'r Adran Priffydd, Trafnidiaeth ac Eiddo yn cwrdd gyda'r Cynghorgau Cymuned er mwyn asesu llwyddiant y cynllun. Cyngor Môn
 |