BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Gwyn Hughes JonesMôn Mam Cymru yn croesawu'r Eisteddfod
Bydd S4C ac S4C Digidol yn darlledu dros 60 awr o gynnwrf prifwyl ieuenctid fwyaf Ewrop, Eisteddfod yr Urdd, a gynhelir rhwng 31 Mai a 5 Mehefin ar faes y Sioe Amaethyddol ym Mona, Ynys Môn.
Ar nos Sul, 30 Mai, cynhelir cyngerdd agoriadol mawreddog ym Mhafiliwn y Brifwyl yng nghwmni'r tenor lleol o Lanbedrgoch, Gwyn Hughes Jones (uchod), a fydd i'w darlledu ar S4C am 8.30pm. Yn ymuno â Gwyn ar y noson fydd y pianydd enwog o Amlwch, Iwan Llewelyn Jones; Côr Seiriol, enillwyr adran y Côr Merched yng Nghystadleuaeth Côr Cymru y llynedd; Côr Ysgolion Ynys Môn, Seindorf Biwmares ac Elin Fflur. Cyflwynir y noson gan ferch o'r ynys, Nia Lloyd Jones.

Yna wrth i'r cythraul cystadlu ddechrau, bydd Alwyn Humphreys yn cyflwyno oriau o gystadlu brwd yn fyw o'r llwyfan bob dydd o ganol y bore ar S4C digidol. Gallwch hefyd ddilyn holl arlwy S4C digidol ar wefannau S4C ac Urdd Gobaith Cymru - S4C neu Yr Urdd.

Ar S4C, Rhodri Llywelyn fydd yn y gadair yn llywio'r rhaglenni bob prynhawn tra bydd llais Nia Ceidiog i'w glywed yn sylwebu ar y cystadlaethau a'r prif seremonïau o'r Pafiliwn. Gethin Jones fydd wrthi'n crwydro'r maes.

Bydd cyfle i fwynhau detholiad o ddoniau'r prynhawn ar y rhaglen uchafbwyntiau bob nos ar S4C ac S4C digidol yng nghwmni Branwen Gwyn a bydd Gareth Owen o Uned 5 gefn llwyfan yn sgwrsio gyda'r cystadleuwyr.

Yn ogystal, bydd digon o hwyl i wylwyr ieuengaf S4C. Bydd rhaglenni bob bore yn ystod yr wythnos gan ddechrau am 7.00am gyda Planed Plant Bach a 7.45am gyda Planed Plant.

Bydd Pafiliwn S4C ar y maes hefyd yn fwrlwm o weithgaredd gyda Martyn Geraint, Lowri Williams a sioe Triongl yn croesawu'r plantos bach, Emma Worthington, Eddie Butler a chyflwynwyr Planed Plant yn diddanu'r plant hŷn a Max N, Pheena, Elin Fflur, Eptitaff a Meinir Gwilym yn perfformio ar lwyfan Popty. Am y tro cyntaf bydd cyfle hefyd i brynu EP newydd Max N a CD yn cynnwys caneuon o'r gyfres feithrin Triongl.

Trefn ddarlledu y rhaglenni ar S4C ac S4C Digidol

Cyngerdd yr Urdd
Gyda Gwyn Hughes Jones
Nos Sul, 30 Mai, 8.30pm, S4C

Rhaglenni byw o'r Eisteddfod:
Llun, 31 Mai Gwener, 4 Mehefin:

S4C digidol - 11.00am (ag eithrio bore Mercher a Gwener am 10.00am)
S4C - 1.30pm
S4C digidol 4.15pm

Sadwrn, 5 Mehefin:
S4C digidol - 11.00am
S4C - 5.30pm hyd ddiwedd yr Eisteddfod

Rhaglenni Uchafbwyntiau

Llun, 31 Mai - Gwener, 4 Mehefin, 8.25pm:
S4C gydag ailddarllediadau yn ddiweddarach ar S4C digidol.

Rhaglenni Plant

Planed Plant Bach: Llun - Gwener, 7.00am ar S4C ac S4C digidol

Planed Plant: Llun - Gwener, 7.45am ar S4C ac S4C digidol.

S4C


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud â gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy