| Mae Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Ynys Môn wedi trefnu rhaglen lawn o weithgareddau i'w cynnal y tu fewn a thu allan i'w stondin yn yr ŵyl yng Nghae Sioe Môn ger Gwalchmai. Un o'r uchafbwyntiau allanol fydd y sesiynau rygbi dyddiol gydag aelodau o garfan pencampwyr newydd y Gynghrair Geltaidd, Scarlets Llanelli, fydd yn cynnig cyfle gwych i bobol ifanc ddatblygu eu sgiliau yng nghwmni chwaraewyr proffesiynol. Bydd yna hefyd sesiynau datblygu sgiliau pêldroed, her golff, cystadleuaeth ffitrwydd Campau'r Ddraig, yn ogystal â her cyfeiriadu. Bydd yna ddigon i'w wneud dan do hefyd - sesiynau tenis a thrampolinio, gweithdai dawns gan gwmni Dawns i Bawb, Clwb Ffitrwydd Plant, gemau i'r anabl, a sialensau ac arddangosfeydd codi pwysau gan Undeb Codi Pwysau Cymru. Mae'n bosib y bydd rhai o'r gweithgareddau yma hefyd yn cael eu cynnal yn yr awyr agored os yw'r tywydd yn ffafriol. Bydd yr holl weithgareddau ymlaen rhwng 10.00 y bore a 4.00 y prynhawn o ddydd Llun, Mai 31 tan ddydd Gwener, Mehefin 4. Mae'r amserlen llawn wedi ei chynnwys yn rhaglen swyddogol yr Eisteddfod. Dywedodd Swyddog Addysg Gorfforol Chwaraeon Ysgol y Cyngor Sir, Karen Jones, "Gobeithiwn y bydd ymwelwyr â'r Eisteddfod yn galw draw i weld beth sydd ar gael ac i fwynhau'r rhaglen amrywiol a chyffrous o weithgareddau sydd wedi ei threfnu gan Uned Datblygu Chwaraeon y Cyngor Sir." Cyngor Ynys Môn
 |