| Mae cymdeithas newydd wedi ei ffurfio i gynrychioli buddiannau pysgotwyr môr masnachol yr Ynys, ac maent yn annog mwy o bysgotwyr i ymuno. Ffurfiwyd Gymdeithas Pysgotwyr Môn yn swyddogol mewn cyfarfod diweddar yng Nghaergybi - eisioes mae 37 o aelodau, gyda 31 o'r rheini yn bysgotwyr masnachol. Mae'r gymdeithas wedi gwneud cais am arian Amcan Un trwy Bartneriaeth Adfywio Economaidd Môn i ariannu swyddog datblygu prosiect wedi ei leoli ar Ynys Môn. Mae ffurfiad y grwp yn mynd law yn llaw hefo lansiad grant Amcan Un newydd ar gyfer pysgotwyr masnachol yng Nghymru. Fe all y grant gynnig cymorth ariannol o hyd at 40%, ac mae'n cael ei weinyddu gan swyddog pysgodfeydd Awdurdod Datblygu Cymru yn Aberystwyth. Roedd ysgrifennydd y gymdeithas newydd, Mike Howell, yn croesawu'r grant newydd. Dywedodd: "Mae'r cynllun grant hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir. Fe fyddwn yn annog pysgotwyr Môn i fanteisio ar y cymorth sy'n cael ei gynnig." Roedd Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor Sir, Geraint Edwards, yn falch o'r ddau hwb i bysgotwyr yr Ynys. Dywedodd: "Mae pysgota yn ddiwydiant traddodiadol pwysig i nifer o gymunedau arfordirol Môn. Rwy'n croesawu blaengarwch y pysgotwyr wrth ffurfio'r gymdeithas er mwyn iddynt gael gweithio hefo'i gilydd er gwell." Ychwanegodd: "Mae'r grant ar gael i ddatblygu'r diwydiant, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am ddatblygiad y gymdeithas newydd." Cyngor Ynys Môn
 |