| Am y trydydd tro eleni mae'r fenter gyffrous yn cael ei threfnu gan Cyngor Gwynedd mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Conwy. Bwriad y teithiau tywys fydd rhoi cyfle i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn fwynhau cynefinoedd gwledig a gwarchodfeydd natur heb drafferthion. Bydd swyddogion a gwirfoddolwyr ar gael ar y dydd i gynnig cymorth, ond gofynir i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ddod ag o leiaf un ffrind neu berthynas gyda hwy. Am fod nifer y llefydd wedi eu cyfyngu, cynghorir y sawl sydd a diddordeb i gysylltu ar fyrder. Cynigir y teithiau canlynol yn ystod y misoedd sy'n dilyn. Mehefin 12, 2004 Coed Nyrs, Tremadog a'r Cob Taith o amgylch coedlan William Madog gyda thro ar hyd y Cob sy'n edrych dros olygfeydd godidog o Afon Glaslyn ac Eryri tu draw. 3 Gorffennaf 2004 Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyffryn Aber Taith drwy'r dyffryn hyfryd a gwyllt ger Abergwyngregyn. Ymweliad â'r Rhaeadr Fawr, gyda sgwrsio, straeon a hanes yr ardal. Awst 14, 2004 Gwarchodfa Morfa Madryn Taith ar hyd yr arfordir o Lanfairfechan i ymweld â'r warchodfa natur a'i chyfoeth o adar lleol. Medi 11, 2004 Parc Glynllifon Taith tywysedig o gwmpas y parc, gyda hanes yr hen stad a'r bywyd gwyllt Mae Haydn Hughes, sy'n trefnu'r cynllun ar ran Cyngor Gwynedd yn apelio am wirfoddolwyr fyddai'n barod i fod o gymorth yn ystod y teithiau. "Mae hyn yn gyfle gwych i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn i ymweld â lleoliadau sydd ddim mor hawdd ymweld â hwy heb gymorth gwirfoddolwyr," meddai. "Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd unigolion sy'n mwynhau bywyd gwyllt a natur yn cynnig dod i helpu er mwyn gwneud y teithiau yn werth chweil i bawb sydd am ymuno â ni ar y dydd," ychwanegodd. Am fwy o fanylion neu os hoffech ymuno â'r teithiau cysylltwch â Haydn Hughes ar 01286 831877. Cyngor Gwynedd
 |