| Bydd y grant ychwanegol o £60,000 yn galluogi Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd i wella y Strategaeth Gosod a datblygu dewis ehangach o ofalwyr trwyr sir. Mae'r arian yn rhan o becyn gwerth £95,000 a gyflwynir gan y Cynulliad Cenedlaethol fel rhan o'r Cynllun Plant yn Gyntaf. Nod y cynllun yw hyrwyddo y cyfle bywyd gorau i blant a phobl ifanc fwyaf bregus o safbwynt gofal, addysg a iechyd. Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu defnyddio'r arian ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau i roi cefnogaeth sylweddol i blant a teuluoedd yn ystod y cyfnod cyntaf pan fo teuluoedd yn gofyn am leoliad. "Mae ymchwil yn dangos os na ddychwelir plant adref yn yr wythnosau cychwynol fod y siwns i hyn digwydd yn lleihau gydag amser," meddai Aled Gibbard sydd newydd ei benodi yn Rheolwr Gwasanaethau Maethu, Mabwysiadu a Phreswyl Cyngor Gwynedd. "Bwriedir defnyddio'r arian i gychwyn datblygu Cynllun Rhieni Maeth ar gontract a bydd hyn yn cynnyddu'r opsiynau o ran lleoliadau o fewn yr adran ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd. Ar hyn o bryd mae 150 o blant yng Ngwynedd mewn gofal maeth a 68 o ofalwyr cofrestredig. Er mwyn cyrraedd y galw cynyddol, mae gweithwyr gofal yn apelio yn gyson am fwy o bobl i gynnig help. Mae galw penodol am bobl i gynnig gofal maeth am blant yn eu harddegau a phlant gydag anableddau. Yn ogystal mae angen pobl all gynnig gofal am gyfnodau byr neu mewn achosion o argyfwng. Mae'n hynod anffodus fod plant yn cael eu gosod mewn gofal maeth ond mewn rhai achosion byddai'n llesol iddynt aros gyda teuluoedd o fewn eu cynefin neu gymuned y mae nhw yn gyfarwydd a hi," meddai Glyn Hughes, Arweinydd Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd. Mi fydd y grant ychwanegol yn helpu i hyrwyddo hyn a gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth i blant yma yng Ngwynedd," meddai. Am fwy o wybodaeth am faethu neu fabwysiadu cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar (01286) 679841. Cyngor Gwynedd
 |