BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Nofel newydd gan Llion Iwan
Mae pethau'n edrych yn ddu ar Dafydd. Daeth yn enwog fel gohebydd ar bapur newydd The Times yn Llundain, ond llithrodd y cyfan trwy ei ddwylo.
Bellach mae nôl yng ngogledd Cymru, yn gweithio ar bapur lleol, i fòs y mae'n ei gasáu. Mae mewn dyled, ar fin colli ei swydd a'i gariad. Ac mae'n yfed gormod.

Yna, mae Dafydd yn baglu dros stori frawychus sy'n cynnig cyfle iddo ddianc o'r twll y mae ynddo. Nid damwain achosodd farwolaeth sinistr y corff ar y rheilffordd. Ac nid yw'n credu am funud mai lladd ei hunan wnaeth ei ffrind. Rhaid i Dafydd ddatrys y dirgelwch sydd wrth wraidd y stori er mwyn achub ei groen ei hun - ond am ba bris?

Dyma fanylion nofel ddatrys a dirgelwch hynod afaelgar a darllenadwy, Casglwr, sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Gomer yn Llandysul.

Fe'i dewisiwyd yn Nofel y Mis gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer mis Mai 2004. Caiff y nofel ei lansio yn siop lyfrau Cab@n, Pontcanna, yng Nghaerdydd nos Iau, 13 Mai 2004.

Awdur y nofel yw Llion Iwan sy'n gynhyrchydd rhaglenni ffeithiol gyda'r BBC. Daw'n wreiddiol o'r Waunfawr ond mae'n byw bellach yng Nghaerdydd. Casglwr yw'r nofel gyntaf iddo ei hysgrifennu, ond cyhoeddodd lyfr taith, O Afallon i Shangri La gyda Gomer yn 2001.


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud â gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy